Gwenan Gibbard, Trelew, Feb 2015, GG

Gwenan ym Mhatagonia 2015

Yn Chwefror 2015, fe wnaethon ni gefnogi Gwenan Gibbard i deithio i'r Ariannin i berfformio mewn nifer o lefydd yn Nhrelew a Gaiman, ac yna perfformio yng Ngwyl Patagonia Celtica yn Nhrefelin.

Dywedodd Gwenan ragor wrthym am ei hymweliad:

Petaech chi’n cael golwg ar y pentwr llyfrau sydd gen i wrth fy ngwely ar y funud mi fyddai gennych syniad go lew o’r hyn sydd wedi bod yn llenwi fy meddwl dros yr wythnosau dwytha’. O farddoniaeth R Bryn Williams ac ysgrifau Eluned Morgan i gyfrolau Cathrin Williams ac amrywiol gryno ddisgiau di-ri, does dim digon o hynt, helynt a hanes Patagonia a’i ffordd o fyw i gael i mi ar y funud! Mae’r cyfan oll wedi ei danio gan fy nhaith fythgofiadwy draw i’r Wladfa fis dwytha’ – deg diwrnod llawn i’r ymylon o brofiadau cyfoethog.

Oeddwn, mi roeddwn i’n gwybod rhyw gymaint am hanes yr ymfudo i’r Wladfa ac wedi clywed hanesion a phrofiadau difyr sawl cyfaill a aeth draw yno ar ymweliad ond doedd dim allai fod wedi fy mharatoi at y profiad gwefreiddiol o fod yno fy hunan, ar dir De America, yn bellach i ffwrdd o adre nag y bues i erioed ac eto’n teimlo’n saff ac yn hollol gartrefol ymysg ffrindiau ac eneidiau hoff cytûn.

Gyda fy sbectol haul a fy sandalau yn saff yn y cês, cychwynais yn eiddgar am Fanceinion a thelyn go arbennig efo fi, un o wneuthuriad Telynau Teifi, a fyddai, wrth i mi droi tuag adre, yn cael aros yn ei chartref newydd yn yr Andes. Braint oedd cael danfon y delyn i ben ei thaith a chael bod yn rhan o’r ymgyrch arbennig yma a arweinwyd gan Elinor Bennett. Ond cyn ffarwelio â’r delyn roedd cryn dipyn o berfformio a chyngherddau i’w gwneud gan ddechrau yn Nhrelew, yn theatr braf y Teatro Verdi. Profiad arbennig fu’r noson honno i mi yng nhwmni pobl Dyffryn Camwy, noson yn llawn o sgyrsiau diddorol a braf oedd cael cyd-weithio efo rhai o’r cerddorion lleol sef Caren Jones, Sonia Baliente, Otro Sielo a grŵp Mariela Ledesma. Rhaid i mi ddiolch i Catrin Morris am yr holl drefnu trylwyr ac am ei chroeso cynnes. Profiad arbennig iawn oedd cael bod yn rhan o un o ddathliadau swyddogol Trelew i nodi’r can mlynedd a hanner ers sefydlu’r Wladfa.

Yn ystod yr ychydig ddyddiau a dreuliais yn Nhrelew llwyddais i grwydro tipyn ar hyd strydoedd y dref yn yr awel gynnes, gref, gan ryfeddu at y gof-golofn drawiadol i Lewis Jones, un o’r sylfaenwyr cyntaf, a chefais gyfle i bicio i’r Ysgol Gymraeg gartrefol, lle profais fy ‘mate’ cyntaf erioed! A ninnau’n nabod ein gilydd ers blynyddoedd, braf iawn oedd cael dal i fyny yn y Gaiman efo Esyllt Nest Roberts de Lewis a’r teulu a diolch arbennig i Mabon ac Idris am roi i mi fy mlas cyntaf ar jam llaeth! Hefyd, roedd Sosial yn y Gaiman yr wythnos honno a mwynheais y cwmni difyr a’r canu, a’r bwyd da wrth gwrs. Yna cefais daith hyfryd a hynod ddiddorol i Borth Madryn efo Cathrin Williams a chael gweld â’m llygaid fy hun yr union fan lle glaniodd y Cymry yn 1865. Profais mewn amser byr iawn agosatrwydd cymdeithas Trelew a’r Gaiman a’r croeso tu hwnt o gynnes oedd i’w gael gan bawb ym mhobman.

Buan y daeth yn amser gadael am yr Andes. Roeddwn wedi ceisio dychmygu sawl gwaith sut le oedd ‘y paith’ y clywais cymaint amdano, a chefais olwg ddramatig arno wrth deithio dros nos ar y bws. A hithau’n noson glir a llonydd, goleuwyd y paith gan leuad lachar a sêr di-ri a syllais ar y tirwedd hynod a hudolus hwn am hydoedd, yn union fel pe bawn yn edrych ar ffilm. Roedd hwn yn antur go iawn… Fe’m trawyd wrth gyrraedd Esquel gan banorama godidog mynyddoedd mawr yr Andes ac wrth deithio tua Trevelin fe’m swynwyd gan enwau Cymraeg y ffermydd ar fin y ffordd. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Margarita Green am fy ngwahodd i gymryd rhan yng ngŵyl Patagonia Celtica yn Nhrevelin a gŵyl wych oedd hi hefyd. Welais i erioed safle harddach ar gyfer cynnal gŵyl o gerddoriaeth a dawnsio. Roedd rhyw hud yn perthyn i’r llecyn gwyrdd yma ger yr Afon Fawr ac awyrgylch arbennig trwy gydol y penwythnos. Ar y bore cyntaf yn yr Andes cefais gwmni Elinor Bennett a Rhisiart Arwel a llu o berfformwyr eraill ac ymwelwyr, amryw ohonynt o Gymru, ar daith gerddorol hwyliog ar y trên i ganol unigedd rhyfeddol y mynyddoedd. Pedwar diwrnod cymdeithasol iawn ges i yn Nhrevelin ac mae gen i atgofion braf am ddyddiau hir o heulwen di-baid, am sgwrsio wrth y llyn i gyfeiliant cerddoriaeth werin y gwledydd Celtaidd a thorri syched efo cwrw melys Trevelin, canu deuawd annisgwyl efo Alejandro Jones a gwneud rhagor eto o ffrindiau da o blith trigolion Trevelin ac Esquel. Bu cyfle i gynnal cyngerdd yn Esquel a gweithdai telyn hefyd yn Nhrevelin cyn ymadael. Diolch o galon i Alwen Green ac Aldo am y llety a’r croeso twymgalon a gefais ganddynt tra yn yr Andes. Buom yn sgwrsio cryn dipyn dros sawl paned o de a chefais grwydro yma ac acw yn eu cwmni a gweld rhai o ryfeddodau’r ardal.

Yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig – roedd rhain yn gwbl greiddiol wrth gwrs ym mywydau’r ymfudwyr cynnar i’r Wladfa a gwelaf eu bod nhw’n dal yn hynod o bwysig ym mywydau pobl y Wladfa heddiw. Mi deimlais y brwdfrydedd yno ymysg yr hen a’r ifanc a’r awydd i gynnal yr iaith a’n traddodiadau. Can mlynedd a hanner wedi mordaith arloesol y Mimosa mae’n braf meddwl fod cymaint o gyswllt ac o fynd a dod rhwng Cymru a’r Wladfa heddiw, a’n bod ni, fel erioed, yn ‘un teulu mawr’. Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan fy nhaith ac yn ysu am gael trio canu am y profiad – cawn weld be ddaw! Diolch o galon i bawb am y profiadau bythgofiadwy ac edrychaf ymlaen yn barod at gael dod yn ôl.

Gwenan Gibbard

Mai 2015

Cymru - Tsieina 2017

Thomas Martin - Stratum 50 - Open Books

India Cymru

Hay Festival Kerala

Patagonia 150

Patagonia - Marc Rees