GarethBonello_PerthAustralia_IOF_2015_photobyJenniferGallichan

Bonello, Gareth

Taith The Gentle Good i Awstralia

Gwahoddwyd Gareth i berfformio yng Ngŵyl Gelfyddydol Ryngwladol Perth a Gŵyl Fawr Blws y De, 23 Chwefror-16 Mawrth 2015. Dyma brif ddigwyddiad diwylliannol Awstralia orllewinol a chafodd gyfle i gydberfformio â Charlie Musselwhite a First Aid Kit mawr eu bri. Perfformiodd hefyd ym mhrif sioe'r ŵyl yn Albani.

Meddai Gareth:

"Roedd yn gyfle gwych i adeiladu fy nghynulleidfa yn Awstralia orllewinol a chyflawnais hynny. Gobeithiaf ddychwelyd i berfformio'n rheolaidd yn y dyfodol a gwneuthum y cysylltiadau proffesiynol i hwyluso hyn. Roedd y daith yn gyfle dysgu ardderchog gan roi hyder newydd imi wrth berfformio. Roedd yn wych gydweithio â'm partner Jennifer Gallichan a chyda phedwarawdau llinynnol o Albani a Pherth. Roedd bod yn rhan o ŵyl fawr broffesiynol yn gymorth imi ddatblygu fy sgiliau llwyfan. Roedd y cynulleidfaoedd wrth eu bodd yn enwedig gyda'r caneuon Cymraeg a gwerthwyd yr holl CDau'n gyflym iawn.

Ysbrydoliaeth oedd y daith a gyfranna at fy nghynnyrch creadigol mewn sawl ffordd. Roedd gyrru drwy goedwigoedd Cari ar y ffordd i Albani o Berth yn brofiad bythgofiadwy a'r goedwig yn ddu ac oren ar ôl y tanau diweddar. Gwneuthum sawl recordiad o'r dirwedd ac ymddengys rhai ar fy albwm newydd".

https://thegentlegood.bandcamp.com/

Nôl i'r cyfeiriadur ariannu

Cymru - Tsieina 2017

Thomas Martin - Stratum 50 - Open Books

India Cymru

Hay Festival Kerala

Patagonia 150

Patagonia - Marc Rees