Trevelin_2014_AledJenkins

Margarita Jones de Green - Trefelin

Bu Margarita Green yn bwynt canolog ar gyfer nifer o'r prosiectau a fu yn ystod 2015 - dyma ychydig o feddyliau am ddigwyddiadau'r flwyddyn a'i huchafbwyntiau hi.

Wrth i ni gyrraedd diwedd y flwyddyn arbennig hon, rydw i wedi bod yn edrych yn ôl ar y breuddwydion a ddatblygodd yn brosiectau, y bwriad o greu undod, yr anghytundebau, y llwyddiannau a'r problemau na chawsant eu datrys, y llawenydd mawr a'r eiliadau o bryder.

Un o amcanion Comisiwn Cordillera, yr ydw i'n aelod ohono, oedd codi amlygrwydd ein hunaniaeth, ei hailgyflwyno i'r gymuned, denu sylw at ein prosiectau, a chynnwys disgynyddion yr ymfudwyr o Gymru, yn ogystal â llywodraethau dinesig a thaleithiol, er mwyn cynyddu'r ymrwymiad i warchod yr iaith Gymraeg a thraddodiadau Cymreig er budd pawb.

Un o'n nodau eraill oedd codi cofeb fyddai'n ein harddel ni heddiw ac a fyddai'n parhau i fod yn berthnasol wrth symud ymlaen. A beth allai fod yn fwy addas nag ysgol? Roedd hwnnw'n benderfyniad unfrydol. Ysgol y Cwm yn Nhrefelin ac Ysgol Gymraeg yr Andes yn Esquel fydd yr adeiladau lle byddwn yn gallu cynnig gwasanaeth addysg o ansawdd da, a fydd yn anrhydeddu breuddwyd ein teidiau a'n neiniau a oedd mor awyddus i warchod yr iaith. Heddiw, mae'r gwaith o'u hadeiladu bron wedi'i gwblhau, ac yn 2016, bydd Trefelin yn dechrau ar ei blwyddyn academaidd yn yr ysgol newydd, gydag ystafelloedd dosbarth ar gyfer disgyblion tair, pedair a phump oed, a fydd yn cael eu dysgu yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Sbaeneg.

Dan oruchwyliaeth y pensaer Marcelo Andrés Roberts, mae'r prosiect hwn wedi cael cydweithrediad Asociación Galesa 16 de Octubre o Drefelin, y llywodraethau taleithiol a dinesig, ac Asociación Ysgol y Cwm, a grëwyd yn ddiweddar er mwyn rhedeg yr ysgol. Mae'r cymorth a gawsom gan ein ffrindiau yng Nghymru wedi bod yn amhrisiadwy hefyd. Maent wedi cyfrannu adnoddau addysgu i ni yn rheolaidd, sy'n angenrheidiol ar gyfer y plant. Rydym yn ddiolchgar iddynt ac yn gobeithio gallu parhau â'r berthynas hon, sy'n cael ei chryfhau gan y ffaith ein bod yn cyfathrebu yn yr iaith sydd gennym yn gyffredin, y Gymraeg.

Yn bersonol, rydw i wedi cymryd rhan yn y gwaith trefnu ar gyfer bron pob digwyddiad, ac ar gyfer y rhai nad oeddwn yn gallu bod yn bresennol yn y cnawd, roeddwn i'n gallu eu dilyn ar-lein, trwy ffotograffau a sylwadau, ac roedd hynny'n caniatáu i mi eu mwynhau er gwaethaf.

Cyn i'r dathliadau 150 ddechrau, cefais y cyfle i gymryd rhan yn yr ŵyl Cysylltiadau Celtaidd yn Glasgow am wythnos. Roedd hwn yn gychwyn priodol i'r flwyddyn: bu sawl achlysur pan oeddwn i'n teimlo nad oedd y pellter wedi gwneud i ni anghofio ein hanfod, bod ein gwreiddiau mor gryf ein bod yn gallu parhau i dyfu ac ymestyn fel coed, gyda changhennau cryf i gefnogi pwy bynnag sydd eisiau parhau â'r etifeddiaeth. Heb amheuaeth, mae ein treftadaeth Geltaidd yn fyw, ac mae rhagolygon da ar gyfer y dyfodol, diolch i'r rhai sy'n cefnogi ein cynlluniau i gryfhau mynegiant diwylliannol.

Yn ôl yn Nhrefelin, fel bob blwyddyn, gwnaethom goffáu pen-blwydd sefydlu tref Esquel. Roedd y dathliadau eleni yn cynnwys Cymanfa Ganu yng Nghapel Seion.

Daeth 4ydd Cyfarfod Patagonia Céltica â 170 o artistiaid o'r Ariannin, Chile, Awstralia a Chymru at ei gilydd yn ystod dathliad pedwar diwrnod o gerddoriaeth, dawns, crefftau, bwyd traddodiadol, gemau a chwedlau. Daeth Gwenan Gibbard a Rhisiart Arwel o Gymru i’r Cyfarfod hefyd. Y gobaith yw parhau i gryfhau'r cwlwm hwn a sefydlu arferiad o gyfnewid artistiaid, gan fod artistiaid da iawn ym Mhatagonia sy'n bur anhysbys oherwydd diffyg cefnogaeth a chyfleoedd.

Denodd eisteddfodau Puerto Madryn, Gaiman, Dolafon, Trefelin, a Chubut ymwelwyr o Gymru, gan ddod â'r hapusrwydd ychwanegol o gyfarfod â hen ffrindiau a gwneud cysylltiadau newydd. Roedd presenoldeb tri Archdderwydd - o Gymru, Cernyw a Llydaw - am y tro cyntaf yn seremoni'r orsedd yn Eisteddfod Chubut, yn eithriadol o arbennig.

Daeth deffro'n gynnar bob bore i wrando ar Radio Cymru a'u clywed yn siarad amdanom ni, am Batagonia, yn arferiad i mi ac roedd hynny’n fy ysgogi i godi'n llawer cynt nag arfer. Bu bron i mi gyrraedd y pwynt o wybod mwy am newyddion yng Nghymru nag am newyddion yn lleol, ac roedd yr iaith a'r gerddoriaeth Gymraeg yn canu yn fy nghlustiau, gan fy nghario a mynd â fi'n agosach at bobl a lleoedd annwyl iawn i mi. Gwnes hyd yn oed anfon ychydig o negeseuon at yr orsaf radio fel eu bod yn gwybod ein bod ni'n gwrando arnyn nhw yr holl ffordd draw yma.

Eleni, roedd ffilmiau, rhaglenni dogfen, cyngherddau, sioeau a dramâu i gyd yn gyfrwng i artistiaid enwog, newyddiadurwyr, a phobl o fyd gwleidyddiaeth, allu cymryd diddordeb ym Mhatagonia. Roedd Marc Rees, Huw Edwards, Elin Fflur, Catrin Finch, y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig a'r Côr Ieuenctid, Rhisiart Arwel, Gwenan Gibbard, BBC Cymru Wales, Seneddwyr a chynrychiolwyr y British Council, a Phrif Weinidog Cymru, Mr Carwyn Jones, yn rhai o'r bobl a ddaeth i ymweld â ni.

Yn Nhrefelin, gwnaethom ddod â'r flwyddyn i ben drwy ddathlu pen-blwydd cyrraedd Fontana a'i reifflwyr yng Nghwm Hyfryd. Roedd llawer iawn o Gymry'n bresennol y diwrnod hwnnw hefyd, gan gynnwys y bobl a gymrodd ran yn y daith gerdded i godi arian at Ysbyty Felindre. Mae'n drueni na chawsom ddigon o amser i ddod i adnabod pob un ohonyn nhw’n well, ond hyderwn na fyddan nhw’n anghofio'r profiad o weld ein cwm o ben Craig Goch, ac y byddan nhw’n dychwelyd.

Hoffwn ddweud DIOLCH YN FAWR i bawb a'n cynorthwyodd, TAN Y FLWYDDYN NESA i'r rhai sydd am barhau i gryfhau'r hyn sy'n werthfawr i ni, a CHROESO i bawb fyddai'n hoffi ymuno â ni, fel bod yr hyn rydym wedi llwyddo i'w feithrin am 150 o flynyddoedd byth yn cael ei golli. Er ein mwyn ni, ein plant, a'n hwyrion. Er mwyn y dyfodol.

Cymru - Tsieina 2017

Thomas Martin - Stratum 50 - Open Books

India Cymru

Hay Festival Kerala

Patagonia 150

Patagonia - Marc Rees