Image by/Llun gan Academi

Llenyddiaeth

Gan Jon Gower

Llenyddiaeth yw un o’r ffurfiau celfyddydol mwyaf ei barch yng Nghymru, a chynhyrchodd yr iaith Gymraeg gorff nodedig o waith, ac nid y lleiaf yw’r farddoniaeth ar gynghanedd, ffurf ar fesurau caeth a ddisgrifiwyd gan y Princeton Encyclopaedia of Poetry fel ‘ the most sophisticated system of poetic sound-patterning practised in any poetry in the world’. Cyflwynir gweithiau nifer o awduron Cymreig, hen a newydd, mewn cylchgronau megis New Welsh Review a Planet, ac mae cyhoeddiadau Cymraeg megis Barn yn cyflawni’r un swyddogaeth yn yr iaith frodorol.

Mae Cymru yn gartref i Ŵyl y Gelli, y gellid dadlau mai hi yw digwyddiad llenyddol mwyaf llwyddiannus y DU. Galwodd Bill Clinton hi yn "Woodstock of the mind" ac fel gŵyl mae wedi ymestyn ei gorwelion, nid yn unig i gynnwys ffurfiau celfyddydol eraill ond hefyd i sefydlu ei brand diwylliannol ei hun, gan iddi genhedlu chwaer wyliau hynod lwyddiannus mewn mannau megis Nairobi, Cartagena, Grenada, Zapateca a Beirut. Mae’r ychwanegiad diweddaraf i’r calendr llenyddol, Gŵyl Talacharn, wedi defnyddio ei safle "cardiau post" ar ymylon aber, gyda chysylltiadau â Dylan Thomas, un o feibion llenyddol enwocaf Cymru, i greu dathliad gorfoleddus a chartrefol o eiriau a cherddoriaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn ysgrifennu Cymreig gwirioneddol dda, mynnwch ddarllen nofelau Niall Griffiths, Jan Morris yn ysgrifennu am ei theithiau, unrhyw beth gan Jim Perrin, traethodau aruchel Robert Minhinnick, cofiant emosiynol ysgubol Nia Wyn, Blue Sky July neu farddoniaeth Damien Walford Davies, Dannie Abse, Gwyneth Lewis neu Gillian Clarke.


Practics/EU/Education and Culture



Cymru - Tsieina 2017

Thomas Martin - Stratum 50 - Open Books

India Cymru

Hay Festival Kerala

Patagonia 150

Patagonia - Marc Rees