PRACTICS
Prosiect Peilot a ariennir gan yr UE Prosiect peilot tair blynedd a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd yw PRACTICS a’i nod yw helpu i ddarparu gwybodaeth a chyngor ar symudedd ar draws Ewrop i bobl broffesiynol ym myd y celfyddydau a diwylliant. Fel un o’r prif bartneriaid yn y prosiect, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gweithio gyda deg o sefydliadau diwylliannol eraill o bob rhan o Ewrop. Dros y tair blynedd nesaf bydd Cymru yn gweithio gyda Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Sbaen i ddatblygu a rhoi prawf ar ‘Fannau Cyswllt’ cenedlaethol ar gyfer Symudedd Diwylliannol o fewn yr UE. Bydd y mannau cyswllt hyn yn cynnig gwybodaeth a chyngor i artistiaid a sefydliadau diwylliannol ar y materion a’r sialensau ymarferol ddaw i’w rhan wrth weithio ar draws ffiniau.
Os ydych chi yn cynllunio prosiectau celfyddydol yng Nghymru o Ewrop neu os ydych chi'n artist sydd yn seiliedig yn ngwledydd eraill Ewrop ac yn cynllunio i gyflwyno gwaith yng Nghymru, yma gallwch gael gwybodaeth ar ffurfiau cyfreithiol a trefniadau cyffredinol i'ch helou chi. Gwelwch cyfarwyddiadau a tudalennau cymorth i'r dde o'r dudalen yma.
Os oes ganddoch chi unrhyw ymholiad ynglun a cynnwys y gwasanaeth yma, cysylltwch a ni gyda'ch cwestiynnau drwy e-bost i practics@wai.org.uk.  Y partneriaid sy’n gweithio ar y prosiect yw: The Finnish Theatre Information Centre, Finland; Het Kunstenloket, Belgium; Stichting Internationale Culturele Activiteiten SICA, Netherlands; Arts Council of Wales/Wales Arts International, Wales; Interarts Foundation for International Cultural Cooperation, Spain; Fondazione Fitzcarraldo, Italy; Performing Arts Employers Associations League Europe Pearle, Belgium; Association Européenne des Conservatoires AEC and European League of Institutes of the Arts (ELIA), Netherlands; European Citizen Action Service (ECAS), Belgium; IETM, Belgium.   Ariannir y prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd Ceir rhagor o wybodaeth pellach ar gael ar wefan PRACTICS: g: www.practics.org
NEWYDDION:
|