 |
Canfas 06
Cylchlythyr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Chwefror 2006 --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Croeso i Canfas 06 - http://www.wai.org.uk/canfas06

Newyddion
Bydd Diversions, Cwmni Dawns Cymru yn perfformio eu comisiwn gan y coreograffydd Hélène Blackburn o Fontréal fel rhan o’r British Dance Edition 2006 yn Leeds, ddydd Gwener 10 Chwefror 2006. g: www.bde2006.co.uk
Bydd cyfle arddrechog i weld gwaith yr artistiaid hynny sydd wedi eu cynnwys yn yr arddangosfa Gymreig yn y Venice Biennale 2005 - Peter Finnemore, Laura Ford, Paul Granjon a Bedwyr Williams – mewn arddangosfa gyda’r teitl Rhywle Arall: Rhywbeth Arall yn Oriel Davies, Y Drenewydd o’r 25ain Chwefror i’r 8fed Ebrill 2006. g: www.wai.org.uk/newyddion96
Hefyd gellir gweld gwaith Peter Finnemore yn yr Argos Gallery ym Mrwsel o 8 Chwefror tan 1 Ebrill 2006. g: www.wai.org.uk/newyddion92
Bydd awduron o Gymru yn cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad yn Efrog Newydd yn y dyfodol agos. Bydd Wales Writing for the World yn rhan o ‘Wythnos Cymru yn Efrog Newydd’ a gynhelir o’r 25ain Chwefror i’r 4ydd Mawrth 2006. Hefyd, gwahoddwyd tri awdur i gymryd rhan yn y People's Poetry Gathering a gynhelir yn ystod y Gwanwyn. g: www.wai.org.uk/newyddion95
Bydd Artes Mundi, Gwobr Celf Weledol Ryngwladol Cymru ar agor i’r cyhoedd o’r 11eg Chwefror i’r 7fed Mai 2006 yn yr Oriel a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Bydd enw derbynnydd y Wobr o £40,000 yn cael ei gyhoeddi ar yr 31ain Mawrth 2006. I gydfynd â’r arddangosfa bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn trefnu ymweliad ymchwil ddiwedd Mawrth i guraduron rhyngwladol. g: www.wai.org.uk/newyddion94
Fel rhan o brosiect Sealines, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, bydd Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (y mae Llenyddiaeth Cymru Dramor yn un o’i brif bartneriaid) yn rhedeg cyfres o breswyliadau yng Nghaerdydd, Helsinki, Riga, Galway, Koper a Tarragona trwy gydol y flwyddyn. g: www.wai.org.uk/newyddion93
Gyda chefnogaeth ariannol o Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru bydd y gwneuthurwr ffilm Aparna Sharma yn cymryd rhan yn y Next Wave Festival yn Melbourne, Awstralia yn ystod mis Mawrth 2006. g: www.wai.org.uk/newyddion86
Gellir darllen storïau rheolaidd o’r newyddion ar lein ar: www.wai.org.uk/newyddion
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfleoedd
Cynhwysir rhestr o’r cyfleoedd rhyngwladol, wedi ei diweddaru yn rheolaidd, ar wefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: www.wai.org.uk/cyfle. Mae’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:
Dawns Annibynnol Cymru – sy’n cynnig dau le ar breswyliad coreograffig i ddau artist o Gymru am bythefnos yn ystod Awst 2006. g: www.wai.org.uk/cyfle82
Mae Cymdeithas Cerddoriaeth Annibynnol [The Association of Independent Music] (AIM) yn cynllunio cenhadaeth gerddorol i India yn ystod Mawrth 2006 a chroesewir ceisiadau o bob rhan o’r diwydiant cerddoriaeth. g: www.wai.org.uk/cyfle79
Mae’r Cyngor Prydeinig wedi lansio datblygiad rhyngwladol newydd o ddangosiadau Antenna o fideos cerddorol annibynnol. Gwahoddir cynigion o bob rhan o’r DU. g: www.wai.org.uk/cyfle77
Mae Visiting Arts yn ddiweddar wedi newid y broses ymgeisio am Grantiau Prosiect a sefydlwyd i hyrwyddo’r gwaith o gyflwyno celf rhyngwladol yn y DU a symbylu dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 28 Ebrill 2006 a bydd hyn am brosiectau fydd yn cymryd lle rhwng 1 Hydref 2006 a 31 Mawrth 2007. g: www.visitingarts.org.uk/funding/awards.html
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Prosiectau
Cymru yn Y Weriniaeth Tsiec
Mewn partneriaeth â’r Cyngor Prydeinig yn Y Weriniaeth Tsiec, bu Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cefnogi rhaglen o waith o Gymru ar draws y ffurfiau celfyddydol yn ystod y flwyddyn ariannol 2005/06.
Flourish: mae’r arddangosfa hon o waith gan artistiaid Cymreig ac artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, i’w gweld yn awr yn Oriel Genedlaethol Moravia yn Brno. Cyd-guradwyd yr arddangosfa gan Anthony Shapland a Marek Pokorny, Cyfarwyddwr Oriel Moravia ac mae i’w gweld hyd y 26ain Chwefror 2006. Gellir gweld ffotograffau o’r arddangosfa ar www.wai.org.uk/llyniaufl.
Bydd arddangosfa o waith gan Ivor Davies – paentiwr, hanesydd celf, ieithydd a gweithredydd – yn agor yn Oriel Genedlaethol Moravia yn Brno ar 16 Mawrth 2006. g: www.wai.org.uk/ivorda
Bydd Ned Thomas, Christopher Meredith, Ed Thomas a Menna Elfyn yn ymweld â’r Weriniaeth Tsiec ganol mis Mawrth i gymryd rhan yn y Kostelec Seminar gan ganolbwyntio ar lenyddiaeth Cymru. g: www.wai.org.uk/gtllen
g: Prosiectau yn Y Weriniaeth Tsiec: www.wai.org.uk/gwerintsiec
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfarfyddiadau Dawns
Bydd Rhywle, y digwyddiad nesaf yn rhaglen Cyfarfyddiadau Dawns Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn cael ei gynnal ddechrau Gorffennaf yng Ngorllewin Cymru. Bydd Rhywle yn canolbwyntio ar ymarferwyr y mae eu gwaith yn rhoi sylw i’r ‘gwledig’ fel lle neu ddylanwad ar y broses o greu. Trefnir Rhywle mewn cydweithrediad â phartneriaethau Locator. g: www.danceencounters.info
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Québec/Cymru
Dros gyfnod o dair blynedd mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Méduse – canolfan aml-ddisgyblaethol arbennig iawn yn Québec City – yn cydweithio ar gyfres o breswyliadau ar gyfer artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru. Dewiswyd Jennie Savage artist gweledol ac awdur, ar gyfer y trydydd preswyliad ac mae hi nawr yn Québec City hyd ddiwedd Mawrth 2006. g: www.wai.org.uk/newyddion81 a www.wai.org.uk/medusec
Bu’r awdur Patrick McGuinness a Chyfarwyddwr Llenyddiaeth Cymru Dramor Sioned Puw Rowlands yn Salon du Livre, Montreal yn ddiweddar. Dyma’r tro cyntaf i Lenyddiaeth Cymru gael ei gynrychioli yno. g: www.wai.org.uk/newyddion97
g: Prosiectau Québec/Cymru , www.wai.org.uk/prosiectqc
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Ariannu
Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol
Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn parhau gyda’r dull agored o ymgeisio am gefnogaeth i weithgaredd rhyngwladol, sef y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, trwy gydol blwyddyn ariannol 2006/2007.
Gan fod pwyslais y Gronfa ar hyrwyddo deialog traws-ddiwylliannol a gweithio ar y cyd, rhoddir blaenoriaeth i’r cynigion hynny sy’n llwyddo orau i ddangos ymrwymiad o’r fath ac sy’n cynnig cyfle i gyfoethogi a datblygu ymarfer proffesiynol.
Gellir cyflwyno ceisiadau i’r Gronfa i am gefnogaeth tuag at:
- ymchwil ar gyfer prosiectau rhyngwladol sy’n digwydd naill ai yng Nghymru neu y tu allan i’r DU
- prosiectau rhyngwladol sy’n digwydd y tu allan i’r DU sydd naill ai’n ymwneud ag artistiaid unigol sy’n byw yng Nghymru neu gyrff proffesiynol y celfyddydau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Diben y Gronfa yw annog ymarferwyr proffesiynol yn y celfyddydau i archwilio partneriaethau posibl gyda golwg ar gyweithiau yn y dyfodol ac i gydweithio ar brosiectau ag ymarferwyr, cynhyrchwyr, cyflwynwyr neu hyrwyddwyr mewn gwledydd y tu allan i’r DU.
Mae’r Canllawiau ar gyfer y Gronfa i’w gweld ar www.wai.org.uk/ccrh.
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Crynodeb o’r gefnogaeth roddwyd gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol
Mae rhestr lawn o’r artistiaid a’r sefydliadau a gefnogwyd gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol ers dechrau’r flwyddyn ariannol 2005/06 i’w gweld ar www.wai.org.uk/ccrhdiweddar.
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru – partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Prydeinig Cymru
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am y cylchlythyr neu'r wefan, neu os hoffech ddirwyn eich tanysgrifiad sy'n rhad ac am ddim i ben, mae croeso i chi gysylltu gyda info@wai.org.uk. Ceir gwybodaeth am y mwyafrif o'n gweithgareddau ar ein gwefan - os hoffech wybod rhagor, mae croeso i chi gysylltu â ni. Diolch yn fawr.
|