 |
|
 |
 |
|
 |
 |
Chwilio am y Ddraig Goch
2008 Image by Rhodri Jones g: www.rhodrijones.com | | Dewiswyd wyth o arlunwyr gweledol sy’n dod i’r amlwg yn Tsieina o blith prifysgolion blaenllaw ym Meijing, Shanghai, Guangzhou a Chongqing i ddod i Gymru am fis o gyfnod preswyl mewn sefydliadau a chanolfannau yng Nghymru. Yr artistiaid oedd: Lan Jian, Chen Jiao, Hou Lidan, Chuang Wang, Liu Yin, Chen Wei, Liu Fan a Yin Shuangyi. |
| Cynhaliwyd arddangosfa o’u gwaith yn Wythnos Cymru yn Chongqing ym mis Mawrth 2008 ar sut roeddent yn dychmygu Cymru cyn iddynt gyrraedd Cymru ddechrau mis Ebrill. Cafodd yr artistiaid gyfle unwaith mewn oes wrth iddynt ymweld â Chymru am gyfnod preswyl yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth ac Ysgol Gelf a Dylunio UWIC, Caerdydd. |

Dywedodd Iwan Bala, Artist o Gymru a’r gwesteiwr ar gyfer Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin:
"Mae hwn yn gyfle arbennig i ni yng Nghymru, yn artistiaid ac yn fyfyrwyr, i gael ein cyflwyno i grŵp o artistiaid ifanc o Tsieina, a hefyd iddynt hwy i gael eu cyflwyno i Gymru a’i diwylliant. Treuliodd yr artistiaid hyn ychydig o amser yn chwilio am y ddraig goch - ein gobaith nawr yw y byddwn yn gallu ‘anadlu tân’ i mewn i’n perthynas gyda Chongqing a Tsieina drwy eu hartistiaid. Mae Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn bendant yn edrych ymlaen at groesawu dau artist o Shanghai." Dywedodd Eluned Haf, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:
"Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’i bartneriaid yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Tsieina. Mae’n cynnig cyfle unigryw i artistiaid o Gymru a Tsieina rannu eu profiadau a’u gwybodaeth artistig. Yn ogystal, mae’n cynnig cyfle i bobl yng Nghymru a Tsieina ddatblygu perthnasoedd diwylliannol. Gobeithiwn y byd artistiaid o Gymru’n gallu cael profiadau tebyg yn Tsieina yn y dyfodol."
|

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Ei nod oedd dod â mantais artistig i’r artistiaid ynghyd â datblygu’r potensial am berthynas ddiwylliannol ac artistig tymor hir rhwng partneriaid yn Tsieina a Chymru.
Am fwy o wybodaeth Sefydliadau a chanolfannau cysylltiedig: |
|
 |
|
|