Amy Santoferraro yn Stiwdio Fireworks Caerdydd
2008
Cyn bo hir, bydd yr artist cerameg rhyngwladol, Amy Santoferraro yn dod i ddiwedd ei phreswyliad deufis yn stiwdio Fireworks yng Nghaerdydd. Gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, bu Amy’n gweithio ochr yn ochr â rhai o artistiaid cerameg enwocaf Cymru wedi’i lleoli yn Fireworks.
Gan weithio’n bennaf â delweddau o anifeiliaid, treuliodd Amy ei hamser yng Nghymru’n edrych ar fythau a chwedlau ar ôl cael ei hysbrydoli gan y gwaith gan yr artist cerameg o Gymru, Catrin Howell, sy’n seiliedig ar themâu llên gwerin. Mae Catrin wedi dychwelyd yn ddiweddar o’i phreswyliad yn y Clay Studio yn Philadelphia lle mae Amy yn artist preswyl ac yn gynorthwyydd oriel. Mae gwaith Amy’n dangos ei doniau wrth wneud gwaith cerflunio mewn amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau gan gynnwys pren a gwydr, ynghyd â’i dychymyg gyda’r hen a’r newydd. Wrth ddisgrifio ei dulliau, meddai:
“Mi fydda i’n chwilota’n swnllyd mewn siopau bargeinion a hen farchnadoedd rhad fel taswn i’n chwilota trwy focsys teganau, gan rwygo trwy wrthrychau y mae eu defnyddioldeb wedi’i sbydu ac sy’n aros i gael eu gwaredu i’r bywyd newydd sydd wedi’i ddychmygu ar eu cyfer. Mi fydda i’n dewis gwrthrychau’n ofalus â llaw - gwrthrychau sy’n gyfarwydd neu sydd, i’m tyb i, yn ymffrostio mewn rhyw elfen o addewid a harddwch. Mi fydda i’n poitsian yn ddi-baid â’r gwrthrychau mewn ffordd geramegol, nes y byddant yn ffitio ac yn gweithio mewn ffordd sy’n riâl i fi.”

Wedi’i geni yn Akron, Ohio, gan ennill ei B.A.E. (Addysg Gelf) a’i B.F.A. (Cerameg) o Brifysgol Daleithiol Ohio yn 2004. Bu’n Breswylydd Haf ac yn Rheolwr Stiwdio yng Nghanolfan Watershed i’r Celfyddydau Ceramig yn Newcastle, Maine a threuliodd flwyddyn ym Mhrifysgol Daleithiol Louisiana fel Myfyriwr Arbennig a chafodd ei chyflogi gan Southern Pottery Equipment and Supplies. Bu Amy hefyd yn treulio blwyddyn yn Artist Preswyl yn Ysgol Gelfyddydau a Chrefftau Arrowmont yn addysgu, adeiladu ac yn gwneud mowldiau i blant ac oedolion mewn ystafelloedd dosbarth a gweithdai. Mae ei gwaith ar ddangos ac yn cael ei gadw mewn casgliadau parhaol a phreifat yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Yn ystod ei phreswyliad yma yng Nghymru, bu’n traddodi sgyrsiau i fyfyrwyr a’r cyhoedd ym Mhrifysgol Morgannwg yn ogystal ag Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Derbyniodd y sgyrsiau groeso cynnes. Bydd y gwaith a gynhyrchir yn ystod ei phreswyliad yn ffurfio arddangosfa un-ddynes yng Nghanolfan Gelfyddydau Abaty Nant Teyrnon, Cwmbrân ym mis Ionawr 2009.
g: www.mysanto.com
|