Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Image of the WAI logo  

   Hafan > CYLLIDO > Adroddiadau gan y derbynwyr > Dawns Rubicon; Gwyl Dawns Ieuenctid Awstralia
CYLLIDO
CYLCHLYTHYR
ADBORTH
CYSYLLTWCH Â NI
Printer friendly version of this page Email this page

Dawns Rubicon; Gwyl Dawns Ieuenctid Awstralia

Ebrill 2006

 

Rubicon Dance

Mae Sharon Teear, Gweithwraig Datblygu Dawns gyda Dawns Rubicon yn adrodd ar daith Dawns Rubicon i Awstralia, 13 – 25 Ebrill 2006, ar gyfer Gwyl Dawns Ieuenctid Awstralia.

 

Roedd Rubicon yn dymuno mynd â grwp o bobl ifanc i Wyl Dawns Ieuenctid Awstralia 2006. Sefydlwyd yr Wyl gan Ausdance ac fe’i cynhaliwyd eleni mewn tref fechan o’r enw Horsham, ger Melbourne. Roedd hon yn wyl oedd yn para am wythnos gyfan ac yn cynnwys tua 200 o gyfranogwyr ifanc ac arweinyddion ieuenctid. Gyda chymorth grant gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru ac ymgyrch godi arian, llwyddasom i wireddu ein dymuniad.

 

Penderfynasom fynd â phedwar aelod o’n grwp ieuenctid blaenaf, ‘Nubrico’, i’r Wyl. Mae’r grwp yn cynnwys pobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sydd wedi eu dethol o’r gwahanol raglenni ieuenctid eraill yn rhinwedd eu sgiliau a’u hymroddiad. Fel arfer, mae 12 dawnsiwr yn Nubrico. Fodd bynnag, oherwydd y costau uchel a’r ffaith na fuom yn yr wyl o’r blaen, penderfynasom fynd â phedwar aelod a dau arweinydd dawns, yn y gobaith o sefydlu cynllun cyfnewid ar gyfer y dyfodol. Bu’r pedwar aelod a ddewiswyd yn aelodau o Rubicon ers blynyddoedd ac roedd pob un ohonynt yn hynod falch o gael y cyfle arbennig hwn. Braf iawn oedd gallu cynnig y cyfle unigryw hwn i aelodau mor ymroddedig o’r grwp.

 

Roedd Ausdance yn sefydliad ardderchog i gydweithio â nhw. O’r cychwyn cyntaf buont yn gefnogol iawn i’r ymweliad. Sefydlwyd cyswllt flwyddyn cyn yr ymweliad ac mae’r cyswllt hwnnw yn parhau hyd heddiw. Roedd ein cyfranogaeth yn yr wyl yn bwysig, nid yn unig i ni ond hefyd i Ausdance ac i dref Horsham. Mae i Rubicon enw da gan Ausdance oherwydd ymweliadau blaenorol a gefnogwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Rubicon oedd yr unig grwp rhyngwladol yn yr wyl a’r grwp cyntaf i fynd yno. Cawsom gyfweliad gyda’r wasg leol a bydd gofod i ni yn y rhifyn nesaf o Ausdance Magazine.

 

Roeddem yn teithio yn syth i Horsham, gyda’r daith gyfan yn ymestyn dros 36 awr! Llwyddodd y grwp i ddygymod â hyn yn dda iawn ac roedd pawb yn llawn cyffro. Ar ôl cyrraedd roedd gennym ddiwrnod sbâr a chyfle i ymgynefino â’r lle a dod dros broblem y ‘jet-lag’. Croesawyd ni gan y trefnwyr a chawsom ein cofrestru ar gyfer yr wyl. Roedd yr wyl yn ymestyn dros wythnos gyda pherfformiad gan 250 o gyfranogwyr i gloi. Yna treuliwyd diwrnod ym Melbourne yn mwynhau’r golygfeydd, cyn cychwyn am adre.

 

Roedd yr wyl yn cynnig rhaglen lawn, gan ddechrau am 9.00 y bore a gorffen am 9.00 yr hwyr. Ar ddechrau ac ar ddiwedd pob diwrnod cynhelid fforwm er mwyn cael pawb at ei gilydd a sicrhau bod pawb yn setlo yn iawn. Byddem yn treulio pob bore yn rhan o grwpiau penodol, gan weithio gyda choreograffwyr mawr eu parch. Byddai pob grwp yn gweithio ar goreograffu adran arbennig i’w chynnwys yn y perfformiad terfynol. Yn ystod y prynhawniau byddai’r bobl ifanc yn cyfranogi mewn sesiynau blasu, gan gynnwys ystod o arddulliau, o hip-hop, bale, dawnsio Senegalaidd, dawnsio tân, dawnsio brodorol a llawer mwy.

 

Fel arweinydd roeddwn yn cael cyfle i wylio yr ystod llawn o goreograffwyr er mwyn cael y perspectif llawn, ac er mwyn gweld y gwahanol ddulliau o weithio a chynnig cefnogaeth i ddawnswyr Nubrico oedd yn aelodau o’r gwahanol grwpiau. Yn ystod y prynhawniau, byddwn yn cymryd rhan yn y sesiynau blasu ymarferol. Dysgais nifer o wahanol arddulliau, megis dawnsio Senegalaidd a dawnsio brodorol. Roeddwn yn gallu dod â’r hyfforddiant a’r wybodaeth newydd yn ôl gyda mi i Rubicon ac mae hyn wedi cryfhau fy ngwaith.

 

Tynnwyd llwythi o dapiau fideo a ffotograffau o’r wyl a chawsom gyfle i’w dangos i grwpiau eraill o fewn y cwmni. Roedd hyn yn gymorth iddynt ddeall beth yn union oedd yr wyl ac at beth yn union y cafwyd ymgyrch i godi arian. Hefyd, bu’n gymorth i roi ysbrydoliaeth o’r newydd iddynt yn ogystal â’u galluogi i ddeall gwahanol ddulliau mewn gwahanol ddiwylliannau. Roedd hyn yn golygu bod modd i ni ymestyn y profiad i lawer mwy na’r pedwar dawnsiwr ifanc a fynychodd yr wyl.

 

Fin nos byddai Ausdance yn gwahodd rhai o’r grwpiau ieuenctid i berfformio yn Neuadd y Dref. Perfformiodd Nubrico ar y noson agoriadol. Roedd y grwp yn hynod nerfus ac yn teimlo dan bwysau gan fod y disgwyliadau yn uchel. Cawsant dderbyniad ardderchog a mwynhawyd y profiad yn fawr. Trwy gydol yr wythnos derbyniai’r grwp adborth cadarnhaol iawn ar eu perfformiad ac ar ansawdd eu gwaith yn gyffredinol.

 

Profiad pleserus oedd gwylio’r grwpiau eraill yn perfformio yn ystod gweddill yr wythnos. Buddiol iawn oedd gwylio’r perfformiadau hyn gan eu bod yn cynnig i ni ddealltwriaeth wych o’r safon ac o’r math o waith ieuenctid oedd yn bodoli yn Awstralia. Hefyd, roedd gwylio perfformiadau, o bersbectif diwylliant gwahanol, yn gyfle i ni fabwysiadu syniadau newydd a allai ddylanwadu ar ein gwaith creadigol fel cwmni. 

 

Hefyd, o wylio’r perfformiadau, roedd modd sefydlu pa grwpiau fyddai’n addas ar gyfer datblygu cyswllt a threfniant cyfnewid rywdro yn y dyfodol. Cawsom drafodaethau diddorol gyda nifer o arweinwyr ieuenctid a choreograffwyr oedd yn awyddus i sefydlu cyswllt gyda’r cwmni yn y dyfodol. Gwnaed rhai cysylltiadau cryf iawn ac mae’r rhain yn parhau.

 

Buddiol iawn oedd cyfarfod a thrafod gyda nifer o wahanol athrawon, arweinwyr ieuenctid, coreograffwyr ac aelodau o Ausdance. Buom yn archwilio y gwahanol ddulliau o weithio gyda’n grwpiau ieuenctid a diddorol oedd gweld y gwahaniaethau a’r cyffelybiaethau.

 

Llwyddodd yr aelodau i sefydlu cyfeillgarwch cryf gyda nifer o’r grwpiau eraill – gan rannu syniadau am ddawns a chael digon o hwyl wrth wneud hynny. Mae’r cyswllt wnaed yn parhau ac mae nifer yn awyddus i sefydlu rhaglen gyfnewid rywdro yn y dyfodol. Roedd effeithiau’r wyl yn drwm ar yr aelodau – ar eu hyder, eu sgiliau a’u gwybodaeth o ddawns ac ar eu gallu i wynebu pob sialens. 

 

Stacey:- “Roeddwn i wrth fy modd. Roedd pawb mor gyfeillgar.”

 

Tamsin:- “Canmil diolch i chi! Dyma amser gorau fy mywyd; fydda i byth yn ei anghofio…”

 

Hannah:-“ Dwi isio symud i Awstralia.”

 

Sophie:- “Roedd yr wyl yn grêt am archwilio a rhannu a dysgu gwahaol arddulliau o ddawnsio, yn ogystal â rhannu ein brwdfrydedd dros ddawns. Roedd cael y cyfle i fynd i Awstralia yn brofiad ffantastig i mi ac yn un na fydda i byth yn ei anghofio.”

 

Fel gweithiwr datblygu dawns, roeddwn ar fy ennill yn fawr o’r profiad. Mae gennyf yn awr well dealltwriaeth o fyd dawns yn Awstralia; hefyd rwyf wedi sefydlu cysylltiadau, wedi cyfnewid syniadau ac wedi dysgu sgiliau ymarferol newydd.

 

Mae’r profiad hefyd wedi bod o gymorth i mi i sylweddoli’r cryfderau yn ein cwmni ni a’r dulliau o weithio gyda’n pobl ifanc. Rwyf hefyd wedi ymdeimlo â’r ysbryd cadarnhaol oedd mor amlwg yn yr wyl ac wedi sylweddoli bwysiced yw hyn wrth ysgogi’r bobl ifanc. Yn ogystal â dysgu llawer am ddawns yn Awstralia, rwyf hefyd wedi dysgu llawer am gynllunio taith a bod yn gyfrifol am grwp ieuenctid a chynrychioli a hyrwyddo Rubicon yn effeithiol.

 

Dyma’r Wyl Ddawns gyntaf i mi ymwneud â hi. Braf oedd cymysgu gyda chymaint o bobl yr oedd eu cariad at ddawns mor heintus. Gwych oedd gweld cymaint o dalent yn yr wyl, gyda’r gwahanol lefelau o fedrusrwydd yn gweithio mor dda gyda’i gilydd.

 

Roedd trefniadau’r wyl gan Ausdance yn hynod dda, gyda phopeth yn rhedeg yn esmwyth ac effeithlon. Roedd Horsham ei hun yn lleoliad delfrydol i’r bobl ifanc – yn fychan, yn ddiogel ac yn gyfeillgar. Cawsom groeso ardderchog a chysylltiadau cwbl ddibynadwy yn Ausdance a bu hyn yn gymorth i wneud y daith yn gymaint llwyddiant.

 

Sharon Teear

Gweithwraig Datblygu Dawns

Dawns Rubicon
 


 

Rubicon yw’r sefydliad ar gyfer datblygu dawns gymunedol yn Ninas Caerdydd a thu hwnt.

g:  www.rubicondance.co.uk

 



Aelodau