Cadwyn Awduron
2009 Yn ystod Gŵyl y Gelli 2009 roedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig yn dathlu llwyddiant menter y Cadwyn Awduron ar Stondin Llenyddiaeth yng Nghymru. Cafodd y Cadwyn Awduron ei sefydlu gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig i ddatblygu prosiectau rhwng y DU ag India. Roedd wyth o lenorion, pedwar o Brydain a phedwar o India, yn rhan o weithdy cyfieithu unigryw a chafodd ei gynnal yn nhalaith gogleddol Rajasthan o’r 14-18 o Ionawr 2009. Cafodd ffrwyth eu gwaith ei gyflwyno mewn digwyddiad arbennig yng Ngŵyl Lenyddol Jaipur ar yr 21ain o Ionawr 2009.
 Ymhlith yr awduron o Brydain oedd Meg Bateman (Alban), Mererid Hopwood (Cymru), Matthew Hollis (Lloegr) a Gearóid Mac Lochlainn (Gogledd Iwerddon). Ymhlith yr awduron o India oedd Kynpham Sing Nongkynrih, Sampurna Chattarji, Udaya Narayana Singh a Sivasankari. Cafodd o leiaf wyth o ieithoedd eu defnyddio yn ystod y gweithdy, gan gynnwys Cymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg, Saesneg, Khasi, Bengali, Tamil a Maithili. Cafodd y gweithdy eu gynnal yng Nhwesty’r Neemrana Fort Palace yn Rajasthan a’r arweinydd oedd Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr rhwydwaith Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, sy’n rhan o Brifysgol Aberystwyth. Roedd yr asiantaeth Siyahi, sy’n arbenigo mewn llenyddiaeth o India, yn cefnogi’r gweithdy. Mae Cadwyn Awduron yn cynnwys gwaith maes ar y cyd sy’n cael ei ddatblygu gydag Academi. Mae hyn yn cynnwys trefnu gweithdai amlgyfrwng i bobl ifanc yng Nghymru ac India o dan arweiniad Mererid Hopwood a Kynpham Sing Nongkynrih. Ym mis Ebrill 2009 cafodd 40 o awduron o India eu gwahodd i Brydain ar gyfer Ffair Lyfrau Llundain. India oedd canolbwynt y farchnad flwyddyn yma, a threfnodd y Cyngor Prydeinig y rhaglen diwylliannol ar gyfer y digwyddiad. Mae’r Cyngor Prydeinig hefyd yn trefnu rhaglen yn India, sy’n dair mlynedd o hyd, ar y themâu o gyfieithu, datblygu sgiliau darllen a’r gallu masnachol ym myd llenyddiaeth. Yn ystod Gŵyl y Gelli 2009, bu’r bardd Cymraeg Mererid Hopwood yn siarad am ei phrofiadau yn India a dangoswyd rhai o’r ffilmiau byr a cafodd eu creu a’u cyfnewid rhwng disgyblion yn India a Chymru.
 Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar y 25ain o Fai 2009 ar Stondin Llenyddiaeth yng Nghymru. Cafodd yr achlysur ei cyflwyno gan Kevin Higgins, Cyfarwyddwr Cyngor Prydeinig Cymru, ac fe’i agorwyd gan Harry McIver, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Y cadeirydd oedd Francesca Rhydderch o Gyfnewidfa Lên Cymru a rheolwr prosiect y Cadwyn Awduron. Dywedodd Harry McIver, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Nod Cadwyn Awduron yw datblygu prosiectau cydweithrediadol a chynaliadawy yn y sector lenyddol yn y DU ac India. Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ymhyfrydu yn y modd y mae’r prosiect wedi archwilio’r syniad o hunaniaeth ac ymwneud cymdeithasol trwy gyfrwng iaith a’r modd y mae wedi rhoi sylw i faterion amlieithrwydd. “Roedd swyddogaeth Cyfnewidfa Lên Cymru fel rheolwyr y prosiect hefyd yn dyngedfennol, gan iddynt gyfrannu eu sgiliau celfyddydol a’u harbenigedd yn y sector i’r dasg o gynllunio’r gweithgaredd, a gweithio’n agos gyda Llenyddiaeth ar draws Ffiniau er mwyn cyflwyno’r gweithdai yn Yr India. “Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn awr yn cynnig rhaglen o ddatblygiadau i Cadwyn Awduron ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn trafod y rhain gyda’r holl bartneriaid.” Cafodd y Cadwyn Awduron ei rhedeg gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig, mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau ac Academi.
|