Cerddoriaeth Byd o Gymru
2009 Drwy Gymru benbaladr, mae cerddorion wrthi’n creu cerddoriaeth hudolus sy’n cyfuno sain Cymreig a Cheltaidd, a hyn mewn ffurfiau cyfoes. Mae’r detholiad cerddorol yma gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn adlewyrchu cyfoeth o dalent ‘Cerddoriaeth Byd’ o Gymru (teitl fe wn sy’n gallu golygu amryw o bethau gwahanol). Mae’n cynnwys cerddorion amryddawn - unigol a grwpiau ynghyd a phrosiectau a chydweithrediadau. Er fod y gerddoriaeth yma wedi ei greu yng Nghymru, mae dylanwadau o bob cwr o’r byd i’w clywed yma. Ond am bob artist sydd wedi eu cynnwys, mae yna lawer mwy i chi eu darganfod.
Mae rhai enwau cyfarwydd fel Cerys Mathews a Catrin Finch, wedi gwneud eu marc ar lwyfannau drwy’r byd ac yn dal i dorri cwysi newydd creadigol. Mae eu prosiectau a’u syniadau amrywiol yn gwefreiddio cynulleidfaoedd drwy’r byd. Mae eraill fel Sild, yn cymysgu ieithoedd a dylanwadau diwylliannol i greu cerddoriaeth egnïol ac ysbrydoledig. Bydd rhai, fel Georgia Ruth Williams a The Gentle Good, yn enwau newydd i chi a fydd yn sicr o greu argraff barhaol fydd yn eich rhyfeddu. Gobeithiaf y cewch foddhad o’r detholiad a gyflwynir yma ac y cewch flas o gerddoriaeth o Gymru sy’n prysur ledaenu i lwyfannau’r byd. Huw Stephens DJ Radio 1 ac aelod o banel dewis Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Dilynwch y link isod i weld y Cyfeirlyfr:
|