 |
Dyfarniadau 2009/10
Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol Ceisiadau Llwyddiannus hyd at Mawrth 2010
 | Cefnogaeth i sefydliadau |
Cwmni Theatr Mess up the Mess Cyfranogiad, Awstria I Sarah Jones a Peri Thomas gynrychioli Mess up the Mess yn ASSITEJ (International Festival of Thetare for Children and Young people) yn Linz, Awstria. Dawns Tan Cydweithrediad, Sbaen I ddechrau cydweithrediad rhwng grŵp dawns Gallu Amrywiol Dawns Tan ynghyd a grwpiau tebyg yn Muricia, Sbaen. Byddent yn perfformio ac yn trefnu gweithdai yng Ngŵyl ‘In Itinere’ ac yn gweithio gyda Asi Somos er mwyn rhannu syniadau artistig a methodoleg.
Fibre Art Wales Cyfranogiad, Gogledd America I ddatblygu prosiect ar y gyd gyda grŵp o artistiaid deunydd yn UDA, tra bod arddangosfa FAW yn cael ei arddangos yng Ngholeg Green Mountain.
Gŵyl Llenyddiaeth a’r Celfyddydau Hay Cyfranogiad, Segovia, Cartagena a Nairobi I’r ysgrifennwr Cymraeg, Fflur Dafydd, gymryd rhan yng Ngŵyl Hay yn Segovia a Cartagena ag i’r awdur o Gymru, Daniel Morden, gymryd rhan yng Ngŵyl Hay yn Nairobi.
Harlech Biennale Arddangosfa, Sbaen I fynychu Cyfarfod Rhyngwladol Ligacao yn Elvas er mwyn creu gwaith ar gyfer arddangosfa rhyngwladol.
Oriel Davies Gallery Ymchwil a Datblygiad, Estonia a Denmarc I ymgymryd mewn ymchwil a datblygiad ar gyfer cyfnewidfa celf gweledol rhwng Estonia, Cymru a Denmarc.
Oriel Gelf Glynn Vivian Ymchwil a Datblygiad, Estonia I deithio i Estonia i barhau gyda’r cydweithrediad a’r partneriaeth bu’n datblygu yn ystod digwyddiad Walestonia yn 2007; gyda’r bwriad i guradu arddangosfa yn 2012/2013, sy’n cynnwys gwaith artistiaid o Estonia, Latvia a’r Ffindir yn Oriel Gelf Glynn Vivian.
Rêl Institiwt Perfformiad, Portiwgal I Karine Decorne a Simon Proffitt gyflwyno gwaith penodol i safle ‘Bwyd Sonique’ yng Ngŵyl Materials yn Portiwgal ac i ddatblygu’r potensial ar gyfer prosiectau ar y cyd gydag Ernesto Rodrigues, cerddor arbrofol o Portiwgal.
Theatr Iolo Perfformiad, Korea Mae’r cwmni wedi derbyn gwahoddiad i’r Ganolfan Addysg yn San Francisco i gynhyrchu a perfformio ‘Under the Carpet’. Maent hefyd wedi derbyn gwahoddiad i deithio rhannau o De Korea.
Valley & Vale Community Arts Cyfnewidfa a Chydweithrediad, Awstralia I weithio gyda Darwin Community Arts er mwyn rhannu methodoleg, ymarfer da a datblygu’r sylfaen ar gyfer cyfnewidfa a chydweithrediad posib yn y dyfodol.
Valleys Kids Datblygiad, De Affrica I cyfnerthu cysylltiadau creadigol yn Langa, De Affrica, ac i ymchwilio a datblygu strategaeth cerddorol ar gyfer y prosiect cymunedol, wedi’ ysbrydoli gan y ffilm Zulu, sydd wedi derbyn cymorth gan yr Olympiad Diwylliannol.
Welsh Independent Dance Cydweithrediad, Canada, Yr Iseldiroedd, Denmarc a’r Eidal I gyfranogi yn Dance Roads gyda nifer o artistiaid rhyngwladol.  | Cefnogaeth i unigolion |
David Ambrose Cydweithrediad, Iran I deithio i Iran yn ystod gŵyl chwedleuwyr Kanoon, er mwyn datblygu cydweithrediad gyda Aitak Sorahitalab o Kanoon.
Jonathan Anderson Preswyl, Utah I gymryd rhan mewn preswyl rhyngwladol yn y ‘Birch Creek Ranch’ yn Utah, UDA ag i ddatblygu gwaith gan ddefnyddio glo, fydd yn cael ei arddangos yn y Oriel Mission.
Tina Carr Cydweithrediad, Hwngari I Tina Carr ag Annemarie Schone gydweithredu gyda Senedd Roma, ‘Amaro Drom’ - cylchgrawn Roma - yn ogystal ag artistiaid a ffotograffwyr eraill o Roma, er mwyn creu ffilm a ffotograffiaeth am yr amgylchedd, storïau, hanes a breuddwydion cymuned Roma yn Hwngari heddiw.
Ruth Carter Cydweithrediad, Denmarc I barhau gyda’r cydweithrediad a’r deialog rhyng-ddiwylliannol rhwng yr ardaloedd gwledig o Gorllewin Jutland, Denmarc a Powys, Cymru. Dechreuodd y cydweithrediad gyda ‘Prosiect Interventions’ yn 2008.
Grahame Davies Cydweithrediad, Pennsylvania a Vermont I gydweithredu gydag artistiaid gweledol yn Pennsylvania a Vermont, gan archwilio’r cysylltiadau rhwng ymwybyddiaeth, treftadaeth â thirlun mewn lleoliadau a cafodd ei effeithio gan y diwydiant glo a llech.
Tim Davies Ymchwil, Estonia I ddatblygu prosiectau i guraduron, gan ymchwilio sefydliadau a chyfranogion o Estonia.
Sean Harris Ymchwil, USA I ymgymryd ymchwil penodol ac i gyfarfod unigolion a cwmnïau allweddol yn Gogledd Dakota a Washington. Maria Hayes Ymchwil a Datblygu, Sweden I deithio i Sweden i ymchwilio a datblygu gwaith sy’n cyfuno lluniad a thafluniad digidol gyda’r triniaeth o olau.
Michal Iwanowski Cydweithrediad, Iwerddon I’r ffotograffwyr, Iwanowski a Bedwani, i gydweithredu gyda dau ffotograffydd o’r Iwerddon, er mwyn cynhyrchu darn o waith sydd yn ymchwilio hanes pagan yn Ngorllewin Ewrop trwy ymweld ag llochesau tylwyth têg.
Dafydd James Cydweithrediad, Hong Kong I weithio gyda Mess Up The Mess yn Hong Kong er mwyn cymryd rhan yn Strangers 2 - prosiect sgriptio ac ysgrifennu rhyngwladol sy’n cynnwys cydweithrediad rhwng pobl ifanc ac artistiaid proffesiynol o Gymru, Seland Newydd, Awstralia a Hong Kong.
Nigel Jenkins Ymchwil a Chydweithrediad, India I ymgymryd taith ymchwil o amgylch taleithiau Dwyrain India, gan gynnwys Meghalaya, Assam, Mizoream, Sikkim, Nagaland, ag Arunachal Pradesh, ac i gydweithredu gyda dau ysgrifennwr o India. Gerard KilBride Ymchwil a Datblygiad, Llydaw I ymchwilio a datblygu prosiect ar y cyd gyda partneriaid yn Galicia a Llydaw, gyda’r syniad o greu cerddoriaeth a perfformiad newydd yn ystod Gwyl Geltaidd Lorient, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yn Galicia.
Nick Lloyd Datblygiad, Prague Y gobaith yw gorffen cerflun o waith Maquette gan Nick Lloyd, ac i ymchwilio’r posibilrwydd o ddatblygu cyfnewidfa rhyngwladol rhwng artistiaid o Bowys a Canolbarth-Cymru ag artistiaid o ar draws y byd.
Alison Mercer Cydweithrediad, UDA I fynychu Fibre Art Rhyngwladol 2010. I gyfarfod curaduron, artistiaid a cyfarwyddwyr Fibre Art er mwyn rhwydweithio. Robert Minhinnick Ymchwil a Cydweithrediad, Awstralia I deithio i Awstralia ar gyfer Gŵyl Barddoniaeth Rhyngwladol Goolwa ac i ymgymryd ymchwil tra’n cydweithredu gyda Adrian Glamorgan a Dr Barry Hill, ysgrifenwyr o Awstralia.
Mandy Nash Ymchwil, Yr Eidal I fynychu Cynhadledd Rhyngwladol Cymdeithas Felt ac i fynychu arddangosfa preifat o’i gwaith. Bydd Mandy hefyd yn ymchwilio ac yn datblygu cysylltiadau ar gyfer y posibilrwydd o ymddangos yn y dyfodol.
Harri Pritchard Jones Cydweithrediad, Yr Eidal I gymryd rhan ac i gydweithredu mewn cyfres o ddigwyddiadau a gweithdai, gyda Silvana Siviero ag Andrea Bianchi, cyfieithwyr a hyrwyddwyr o’r Eidal sydd yn canolbwyntio mewn ieithoedd lleiafrifol.
Tanja Raman Ymchwil a Datblygiad, Ffrainc I ymchwilio a datblygu ei hymarfer trwy gydweithredu gyda Mylene Benoit, gan gynnwys mynychu sioe o’i gwaith diweddar. Christopher Rees Cydweithrediad, Texas I ddatblygu, dogfennu a throsglwyddo cydweithrediad cerddorol rhyngwladol cynfodol rhwng y canwr, ysgrifennwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd clodforus, Christopher Rees gyda’r grŵp enwog The South Austin Horns.
Ian Rowlands Cyfranogiad, New York I gymryd rhan yng Ngŵyl Rhyngwladol hotInk ac i barhau trafodaeth gyda Theatr y Lark ynglŷn a datblygu drama newydd, On Script/Off Broadway.
Zoe Skoulding Cydweithrediad, Granada I gymryd rhan yng Ngŵyl Llenyddiaeth Granada tra’n hyrwyddo llenorion Cymru mewn cyd-destun America Lladin. Bydd Zoe hefyd yn cydweithio gyda Victor Rodriguez Nunez, bardd o Cuba mae hi’n adnabod o Slovenia.
James Tyson Cydweithrediad a Datblygiad, Awstralia a Hong Kong I weithio gyda cwmni theatr Ranters yn Melbourne i ddatblygu darn newydd o waith gyda’r gobaith i deithio yn 2011. Ar y ffordd i Awstralia, mae James hefyd am gyfarfod gydag artistiaid yn Hong Kong, gyda’r gobaith o drefnu cydweithrediad yn 2011 gydag artistiaid yng Nghymru a Hong Kong.
Huw Warren Perfformiad, UDA I Huw Warren a Paula Gardiner gydweithredu a perfformio ar lwyfan rhyngwladol Gwyl Jazz Rhyngwladol Rochester. Y bwriad yw i lawnsio cydweithrediad syfrdanol rhwng chwaraewyr Jazz yng Nghymru a chwaraewyr Jazz yn yr UDA. Simon Whitehead Cydweithrediad, UDA I wella deialog creadigol ymhellach gyda Jennifer Monson, artist o Efrog Newydd, ag i archwilio ffyrdd o gydweithredu yn y dyfodol. Y partneriaid sy’n cydweithredu ydy Earthdance USA a Gwyl Seeds.
Matt Wright Cydweithrediad, New Mexico Cydweithrediad rhwng dau ffotograffydd â niwrolegydd John George gyda’r ffotograffydd a’r botanegwr, Marilyn Phillips. Bydd y cydweithrediad ar ffurf ymchwil creadigol ynghlwm ag ymchwilio’r ymateb i’r tirwedd a datblygu gwaith ffoto-sfferaidd.
|
 |