Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Image of the WAI logo  

   Hafan > Prosiectau > Cyhoeddiadau > Platfform
CYLLIDO
CYLCHLYTHYR
ADBORTH
CYSYLLTWCH Â NI
Printer friendly version of this page Email this page

Platfform

Ymarferiad perfformio cyfoes yng Nghymru

Platfform un/1

Mae Platfform yn gyhoeddiad cyfres sy'n astudio arfer perfformiad cyfoes yng Nghymru sy'n cael ei chynhyrchu gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Bydd Platfform yn cael ei ddosbarthu i gwmnïau theatr, rhaglennwyr a chysylltiadau y Cyngor Prydeinig yn rhyngwladol.

Lansiwyd y rhifyn cyntaf, sef Platfform un/1 yn Sioe Arddangos Caeredin y Cyngor Prydeinig ar ddydd Gwener 22 Awst 2003. 

Mae Platfform un/1 yn cynnwys ysgrifau ar Eddie Ladd, Marc Rees ac Eve Dent; mae Paul Davies yn ysgrifennu am waith y Volcano Theatre Company; ceir hefyd detholiadau ysgrifenedig o Raindogs gan Pearson / Brookes / Thomas, Scarface gan Eddie Ladd ac Indian Country gan Meic Povey.

Mae Platfform dau/2, Hydref 2004, yn cynnwys nodweddion ar 'The House Project' gan Michael Toppings', sef cyd-weithrediad rhwng ointment a Boreal Art/Nature, Mapping 001 a Good Cop Bad Cop; a darnau ysgrifenedig o'r 'The House Project', 'Ghost CIty' gan Gary Owen ac 'stafell B' gan Eddie Ladd.

Mae Platfform tri/3, Awst 2007, yn rhoi sylw i archwiliadau o gelf berfformiadol gyfoes ddiweddar, gan geisio ein procio i feddwl am ymdrechion i ddogfennu a rhoi sylw i waith artistig yng Nghymru. Ochr yn ychr â nodi’r digwyddiadau artistig hyn, mae themâu ar gofio digwyddiadau artistig y gorffennol yn codi cwestiwn ynglyn â’r hyn sy’n wybyddus a’r hyn sy’n cael ei gadw.


Cyswllt: Harry McIver, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
e:
harry.mciver@wai.org.uk
ff: + 44 (0)29 2038 3037




Lythyr
I dderbyn gwybodaeth cyson am weithgareddau CRC cofrestrwch eich ebost.




 English      Cymraeg
 
Aelodau