Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Image of the WAI logo  

   Hafan > Prosiectau > Archif Phrosiectau > Cymru yn WOMEX 2009
CYLLIDO
CYLCHLYTHYR
ADBORTH
CYSYLLTWCH Â NI
Printer friendly version of this page Email this page

Cymru yn WOMEX 2009

Menter ar y cyd rhwng CRhC a SGG



Cymru yn WOMEX 2009

Mynychodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (CRhC) a Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) i WOMEX 2009 yn Copenhagen ar ddiwedd mis Hydref.

Cynulliad cerddoriaeth ethnig, traddodiadol, amgen, byd-eang, lleol ac ieithoedd lleiafrifol mwyaf y byd yw WOMEX. Mae’r sioe arddangos, ffair fasnach a’r gynhadledd yn gyfle perffaith i rwydweithio a datblygu perthynas â phartneriaid rhyngwladol.

Cyd-fenter rhwng CRhC a SCG oedd stondin Cymru yn WOMEX a man sefydlog i lu o sefydliadau ac unigolion gan gynnwys Recordiau Sain, Gwymon, Rhys Mwyn, Here be Dragons a Label Abel.

Stand CRhC & SGG 2009

Roedd CRhC yno i hyrwyddo a datblygu cyfleoedd a chysylltiadau rhyngwladol newydd i gerddorion a’r sector cerddoriaeth o Gymru, wrth hyrwyddo’r cyhoeddiad Cerddoriaeth Fyd-eang o Gymru a grëwyd yn 2008. Defnyddir y cyhoeddiad i hyrwyddo Cerddoriaeth Fyd-eang o Gymru ac fe’i dosberthir mewn gwyliau megis WOMEX, Celtic Connections a SXSW. Mae cofbin USB cyfatebol, gyda thraciau gan gerddorion blaenllaw o Gymru’n ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol arall am gerddoriaeth yng Nghymru, yn cyd-fynd â’r cyfeirlyfr.

Eleni, mae CRhC ac SCG hefyd wedi creu CD o Gerddoriaeth o Gymru i’w ddosbarthu yn ystod WOMEX 2009 a Celtic Connections 2010, y brif sioe arddangos cerddoriaeth werin Geltaidd. Roedd CRhC ac SCG ar ben eu digon â’r ymateb ac ansawdd y traciau a dderbyniwyd. Gweler isod am wybodaeth bellach am yr artistiaid a ddewiswyd ar gyfer y CD Cerddoriaeth o Gymru 2009.

Bydd y CD ynghyd â’r cyhoeddiad Cerddoriaeth Fyd-eang o Gymru yn ganllaw i gynhyrchwyr, hyrwyddwyr a churaduriaid rhyngwladol i ddatblygu eu gwybodaeth am y genre cerddoriaeth fyd-eang yng Nghymru.

Mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn derbyn cyllid craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i fentrau cerddoriaeth trwy amrywiaeth o brosiectau a mentrau.
g:
http://www.welshmusicfoundation.com

Mae rhestr draciau’r CD Cerddoriaeth o Gymru fel a ganlyn:




Aelodau