Mae gan Goleg y Drindod, a sefydlwyd ym 1848, enw rhagorol ym meysydd addysg a’r dyniaethau, y celfyddydau creadigol, diwylliannol a pherfformio, ynghyd ag am gyrsiau sy’n perthyn i’r awyr agored a datblygu cymunedau.
Mae’r coleg wedi’i leoli ar gampws ar gyrion Caerfyrddin, sef tref farchnad brysur yn ne orllewin Cymru. Mae’r cyfleusterau addysgu, gwasanaethau gwybodaeth a llyfrgell, llety, gwasanaethau myfyrwyr ac undeb y myfyrwyr i gyd ar un campws, gan ei wneud yn amgylchedd diogel a chroesawgar ar gyfer myfyrwyr a staff.
Y gwerth ychwanegol yw’r cyfle i fyfyrwyr ennill amrywiaeth o sgiliau ychwanegol, i gymryd rhan yn y gweithgareddau y tu fewn i’r Coleg ac yn y Gymuned, ac i gyfrannu at ddimensiwn rhyngwladol y Drindod sy’n cynyddu. Mae Undeb y Myfyrwyr yn ganolbwynt y tu allan i ddarlithoedd ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau i alluogi myfyrwyr i wneud y gorau o’u hamser yn y Coleg.
Mae cwrs celf gain y Drindod yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau ac yn gwerthfawrogi celf, yn enwedig y rheiny sy’n ymddiddori ym meysydd peintio, serameg, cerflunio a ffyrdd eraill o waith tri-dimensiwn. Fe’i cynlluniwyd yn benodol ar gyfer unigolion sy’n agored i syniadau newydd ac sy’n dymuno archwilio eu meddyliau, credoau a delfrydau eu hunain, ac i gyfathrebu’r rhain drwy eu gwaith creadigol.