Awdur o'r Almaen yng Nghymru
Postiwyd: 01.02.10 Bydd Tŷ Cyfieithu Cymru yn croesawu awdur o’r Almaen i Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd ym mis Chwefror 2010. Bydd Mareike Krügel yn treulio mis yng Nghymru ac yn ystod ei chyfnod preswyl a bydd yn cydweithio gyda’r bardd Mererid Puw Davies ar gyfieithu rhan o'i gwaith. Ganwyd Krügel yn Keil ym 1977 a bu’n astudio yn Sefydliad Astudiaethau Llenyddiaeth yr Almaen yn Leipzig. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Die Witwe, der Lehrer, das Meer (Y Weddw, yr Athro, y Môr) yn 2003. Am ei hail nofel Die Tochter meines Vaters (Merch fy nhad), fe dderbyniodd wobr dinas Hamburg ar gyfer yr awdur ifanc mwyaf addawol ac yn 2006, fe enillodd wobr Friedrich-Hebbel. Yn briod gydag un plentyn, mae bellach yn byw ac yn gweithio yn nhref Ulsnis yng ngogledd yr Almaen. Dyma'r ail awdur preswyl i'w groesawu i Gymru gan y Tŷ Cyfieithu. Fe dreuliodd y bardd Daneg Morten Søkilde fis yma ddiwedd 2009. Mae Tŷ Cyfieithu Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd, mewn cydweithrediad â’r Academi, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Trefnwyd preswyliad Krügel yn sgil aelodaeth y Ty Cyfieithu Cymru o rwydwaith HALMA sy'n cysylltu sefydliadau llenyddol ar draws Ewrop. Am wybodaeth pellach, cysylltwch gyda Cyfnewidfa Len Cymru ar: ff: +44 (0)1970 622 544 e: post@walesliterature.org
|