Cyflwyno India i Lenyddiaeth Cymru
Postiwyd: 01.02.10 Mae’r gwaith o gyhoeddi tair cyfrol o straeon byrion o Gymru mewn tair o ieithoedd India wedi cychwyn. Y disgwyl yw y bydd y llyfrau'n cael eu cyhoeddi yn Bengali, Malayalam a Tamil. Daw’r fenter yn sgil gweithdy cyfieithu a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd ddiwedd 2009. Trefnwyd y gweithdy gan Gyfnewidfa Lên Cymru fel rhan o raglen weithgarwch Tŷ Cyfieithu a'r Gadwyn Awduron. Cafwyd cefnogaeth Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, y Cyngor Prydeinig a'r Academi. Dan arweiniad Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru, ac Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, roedd y gweithdy yn canolbwyntio ar gyfieithu llenyddiaeth Cymru ar gyfer marchnad India. Dros gyfnod o bum niwrnod, bu awduron o Gymru yn gweithio ochr yn ochr â chyfieithwyr Bengali, Malayalam a Tamil. “Hwn oedd y gweithdy cyntaf o’i fath i’w gynnal gan Dy Cyfieithu Cymru ac roedd gweithio gyda thair diwylliant wahanol a thair iaith yn ogystal â Chymraeg a Saesneg yn dipyn o her. Ond fe gafwyd cydweithio ardderchog ac roedd yn brofiad buddiol iawn i’r cynrychiolwyr o India a Chymru fel ei gilydd,” meddai Sioned Puw Rowlands. “Mae’r cyfieithwyr bellach wedi dychwelyd i India ac yn ystod 2010, byddan nhw’n gweithio ar gyfrolau arbennig yn cyflwyno llenyddiaeth Cymru i gynulleidfaoedd India. Bydd y cyfrolau yn cael eu cyhoeddi mewn tair iaith - Bengali, Malayalam a Tamil. O ganlyniad, bydd gan ysgrifenwyr o Gymru lwyfan newydd ar gyfer eu gwaith.” Mae’r Tŷ Cyfieithu yn fenter ar y cyd rhwng Cyfnewidfa Len Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd. Am wybodaeth pellach, cysylltwch gyda Cyfnewidfa Len Cymru ar: ff: +44 (0)1970 622 544 e: post@walesliterature.org
|