Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Image of the WAI logo  

   Hafan > Prosiectau > Archif Phrosiectau > Prosiect Codi'r Baton
CYLLIDO
CYLCHLYTHYR
ADBORTH
CYSYLLTWCH Â NI
Printer friendly version of this page Email this page

Prosiect Codi'r Baton

2009

Lawnsiodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ag Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen y prosiect 'Codi'r Baton' ar faes yr Eisteddfod yn Nghorffennaf 2009.

Yr Eisteddfod sydd yn darparu rheolaeth i'r prosiect, fydd yn gweld rhai o feirniaid yr Ŵyl yn gweithio gyda chyfarwyddwyr cerdd Cymreig yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda'r bwriad o wella cyfarwyddo corawl yng Nghymru.

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru sydd yn rhedeg y prosiect. Maent yn gweithio i hyrwyddo gwybodaeth am ddiwylliant cyfoes o Gymru a hybu cydweithrediad celfyddydol rhyngwladol.

Dywedodd Mervyn Cousins, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod:

"Mae'r prosiect yn ran o'n gwaith allgyrch o Langollen, yn defnyddio'n cysylltiadau agos er mwyn datblygu yng Nghymru. Rydym wedi cydweithio'n agos gyda Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru, i greu y cynllun 'Codi'r Baton' ac edrychwn ymlaen at gychwyn ar y gwaith".

Mae'r prosiect yn rhwdeg o fis Gorffennaf 2009 hyd at ddiwedd Mawrth 2010. Bydd Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn darparu tri diwrnod o fentora ar gyfer cyfarwyddwyr cerdd corawl Cymru. Bydd y rhan cyntaf yn cynnwys diwrnod gyda Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Mervyn Cousins ag Arweinwr Cerdd, Pete Broadment yn yr Hydref. Dilynir hyn gyda digwyddiad dau ddiwrnod ym Mawrth 2010 gyda chyfarwyddwyr cerdd rhyngwladol sydd hefyd yn feirniaid yn yr Eisteddfod.

Bwriad y gweithdai yw i ddatblygu sgiliau arwain arweinwyr cerdd ac i ddarparu datblygiad pellach o alluoedd technolegol, deall repertoire penodol a rhwydweithio perthnasol, gan ddarparu cysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Rydym yn hapus iawn fod Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn cefnogi prosiect Codi'r Baton. Mae gan Gymru etifeddiaeth gorawl goeth a gobeithiwn yn fawr bydd y prosiect yn datblygu sgiliau arwain a chyfarwyddo arweinwyr talentog Cymreig ymhellach".

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan ar wefan CRHC.

g: http://www.llangollen2009.com/



Lythyr
I dderbyn gwybodaeth cyson am weithgareddau CRC cofrestrwch eich ebost.




 English      Cymraeg
 
Aelodau