 |
Cofrestr Genedlaethol Gwneuthurwyr
Bas-data Crefftau Cyfoes Y Gofrestr Genedlaethol Gwneuthurwyr yw’r data-bas mwyaf o grefftau cyfoes yn y DU. Mae’n cynnwys dros 4,800 o ddylunwyr-gwneuthurwyr mewn tecstiliau, cerameg, gwydr, metel, gemwaith, dodrefn a disgyblaethau eraill yn y celfyddydau cymhwysol.
Mae’n adnodd amhrisiadwy a ddefnyddir gan siopau, orielau, prynwyr, cyhoeddwyr a newyddiadurwyr sy’n edrych am waith newydd i’w arddangos a’i gomisiynu. Fe’i defnyddir hefyd i ddarparu manylion cyswllt i ymholwyr sy’n awyddus i gysylltu â gwneuthurwyr penodol.
Mae’r Gofrestr yn agored i ddylunwyr-gwneuthurwyr unigol sy’n byw a gweithio yn y DU ac sy’n gweithio ym meysydd crefftau cyfoes.
Gyda phroses gofrestru syml, mae’n cynnig man cychwyn delfrydol i fusnesau newydd ond mae’n agored i wneuthurwyr ar unrhyw gam yn eu gyrfa. Am wybodaeth pellach, ewch i: g: http://www.craftscouncil.org.uk/explore-craft/national-register-of-makers/
|
 |