Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cefnogi hyrwyddiad a datblygiad ymarfer proffesiynol cyfoes ar draws yr holl ffurfiau celfyddydol, trwy hybu deialog ryngwladol trwy gyfrwng cydweithrediad a gweithio mewn partneriaeth. Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn fan cyswllt ar gyfer derbyn gwybodaeth a chyngor, trwy ein gwefan, cyhoeddiadau, rhwydweithiau a phrosiectau rhyngwladol. Mae ein cylchlythyr Canfas yn rhoi sylw i newyddion a chyfleoedd yng Nghymru a thramor, ochr yn ochr â’n rhaglen o fentrau a prosiectau. Gellir cael rhagor o wybodaeth am weithio’n rhyngwladol ar ein gwefan, sydd hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadur o brif sefydliadau’r celfyddydau diwylliannol yng Nghymru. Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gweithio gyda chyfoeth o bartneriaid; rhai’n rhyngwladol ac eraill wedi eu lleoli yn y DU. Rydym yn datblygu dulliau o hyrwyddo a threfnu gwaith prosiect ar gyfer y ffurfiau celfyddydol, law yn llaw ag ymarferwyr unigol, sefydliadau celfyddydol, sefydliadau diwylliannol a chyrff llywodraethol ar draws y byd. Rydym yn cydweithredu â sefydliadau celfyddydol ac unigolion mewn gwledydd tramor i ddatblygu cyfres o breswyliadau, seminarau, gweithdai, ymweliadau astudio ac arddangosiadau dethol, gyda’r nod o feithrin rhwydweithiau diwylliannol cryf rhwng Cymru a gweddill y byd. Trwy gyfrwng cronfa cyfleoedd rhyngwladol a weinyddir gennym, gall ymarferwyr a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru dderbyn cefnogaeth uniongyrchol i ymchwilio a gwireddu prosiectau gyda phartneriaid o wledydd tramor. Mae gweithio mewn partneriaeth yn greiddiol i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru er mwyn cynnig cyfleoedd a hybu dealltwriaeth ddiwylliannol. Gan weithio gyda phartneriaid yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, rydym yn sefydlu deialog ystyrlon sy’n cynnig sylfaeni cadarn i ddatblygu syniadau creadigol.
Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
 Cyngor Celfyddydau Cymru Plas Bute Caerdydd CF10 5AL g: www.celfcymru.org ff: + 44 (0) 845 8734 900 Cyngor Celfyddydau Cymru 6 Gardd Llydaw Jackson Lane Caerfyrddin SA31 1QD g: www.celfcymru.org ff: + 44 (0) 1267 234248 Cyngor Celfyddydau Cymru 36 Rhoddfa'r Tywysog Bae Colwyn LL29 8LA g: www.celfcymru.org ff: + 44 (0) 1492 533440
|  Cyngor Prydeinig 10 Spring Gardens London SW1A 2BN g: www.britishcouncil.org.uk ff: + 44(0) 20 7930 8466
Cyngor Prydeinig Cymru 1 Kingsway Caerdydd CF10 3AQ g: www.britishcouncil.org.uk/wales ff: + 44 (0) 29 2092 4310
|

|