Ymateb Cadarnhaol i Lansiad PRACTICS
Postiwyd: 12.01.10 Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn yn sgil lansiad swyddogol Man Cyswllt Symudedd Diwylliannol PRACTICS Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, 11 Rhagfyr. Bu hanner cant o weithwyr creadigol proffesiynol o sefydliadau celf o gwmpas Cymru yn bresennol yn lansiad y prosiect. Roedd y lansiad yn cynnwys cyflwyniadau gan y tri siaradwr gwadd a fu’n sôn am eu profiadau ym maes symudedd artistiaid. Bu Alison Woods o Syrcas NoFit State yn trafod ei phrofiadau wrth drefnu teithiau i gynyrchiadau mawr gydag artistiaid o bob rhan o’r UE (a thu hwnt!). Bu hefyd yn rhoi cynghorion ar sut i ymagweddu tuag at symudedd yn llwyddiannus. Rhoddodd Judith Staines, Ymgynghorydd Celfyddydau a gwerthusydd PRACTICS, wybodaeth am fentrau symudedd eraill ar lefel yr UE yn ogystal ag amrywiaeth o wefannau, cysylltiadau a rhwydweithiau defnyddiol am wybodaeth bellach. Yn olaf, bu Nadine Owen, o raglen SPACE y Cyngor Prydeinig yn cyflwyno briff byr ar amcanion SPACE gan gyflwyno gwybodaeth am brosiectau symudedd peilot a ariennir gan yr UE - gan gynnwys e-symudedd, Changing Room a PRACTICS. Roedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru hefyd yn falch o lansio’i llyfryn newydd, sy’n cynnwys taflen wybodaeth am PRACTICS, a fydd yn cael ei ddosbarthu i’n partneriaid yn y sector diwylliannol yng Nghymru.
Dywedodd Antony Owen-Hicks, Pennaeth Prosiectau Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Roeddem wrth ein boddau â’r ymateb gan y sector celfyddydau yng Nghymru i lansiad prosiect PRACTICS. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r gwasanaeth hwn i gynorthwyo artistiaid symudedd yng Nghymru a’r UE dros y ddwy flynedd nesaf.” Prosiect peilot 3 blynedd a ariennir gan yr UE yw PRACTICS a fydd yn helpu i hwyluso darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol ar symudedd ar draws Ewrop i artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol. Fel partner allweddol yn y prosiect, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru’n cydweithio â deg o sefydliadau diwylliannol eraill o bob cwr o Ewrop. Bydd Cymru’n cydweithio â Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Sbaen i ddatblygu a phrofi’r Mannau Cyswllt Symudedd Diwylliannol yr UE’ cenedlaethol dros y tair blynedd nesaf. Bydd y mannau cyswllt hyn yn cynnig gwybodaeth a chyngor i artistiaid a sefydliadau diwylliannol ar faterion ymarferol a’r heriau sy’n codi wrth weithio ar draws ffiniau. Am wybodaeth bellach am PRACTICS, ewch at: gwefan: http://www.wai.org.uk/Practics
|