British Music Abroad yn helpu mwy o berfformwyr i gyrraedd SxSW 2010
Postiwyd: 03.03.10 Bydd 26 o berfformwyr/grwpiau Prydeinig yn gallu mynychu South by South West (SxSW) yn Austin, Texas rhwng y 19eg a’r 21ain o Fawrth eleni, diolch i gefnogaeth PRSF (PRS for Music Foundation). Dyma’r nifer mwyaf o berfformwyr i dderbyn cymorth dan gynllun Cerddoriaeth Brydeinig Dramor i’w helpu i fynychu sioe ryngwladol. Mae cynllun Cerddoriaeth Brydeinig Dramor yn helpu rhai o brif grwpiau y DU i wneud marc mewn gwledydd tramor ac fe’i hariennir gan PRSF, UK Trade & Investment, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Underground ar ran Arts Council England. Ers 2006, cefnogwyd 155 o grwpiau i fynychu digwyddiadau rhyngwladol gyda chyfanswm y grantiau dros £390,000. Mae’r cynllun yn galluogi artistiaid Prydeinig sydd eisoes yn llwyddiannus yn y DU i fanteisio ar berfformio yn rhyngwladol. Mae’n gwneud hyn trwy gynnig grant tuag at gostau teithio a llety - cost a all fod yn rhwystr i artistiaid ar y lefel hon. Cefnogwyd Cate Le Bon o Gymru i fynychu SxSW 2010. Perfformwyr eraill ar draws ystod o genres a gefnogwyd yw: • Master Shortie • Smoke Fairies • Straight Lines • The Invisible • The Lovely Eggs • The Boxer Rebellion • The Chapman Family • The Crookes • The Jim Jones Revue • Wave Machines • Zun Zun Egui • Gemma Ray • Allo Darlin' • Standard Fare • And So I Watch You From Afar • Banjo Or Freakout • Black Spiders • Broadcast 2000 • Crystal Fighters • Goldheart Assembly • Hudson Mohawke • Rose Elinor Dougall • Middle Finger Salute • Johnny Flynn & The Sussex Wit • An Experiment On A Bird In The • Air Pump Dywedodd Vanessa Reed, Cyd-Gyfarwyddwr PRSF: “ Mae Cerddoriaeth Brydeinig Dramor yn codi proffil a hybu llwyddiant perfformwyr Prydeinig yma ac mewn gwledydd tramor. Heb ein cefnogaeth ariannol ni, ni fyddai’n bosibl i’r perfformwyr hyn fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Yn y gorffennol rydym wedi cefnogi Bat for Lashes, Sway and Micachu a Shapes - pob un wedi llwyddo’n rhyfeddol, gan brofi bod hwn yn fuddsoddiad pwysig yn un o allforion cryfaf y DU, sef cerddoriaeth newydd.” Am wybodaeth bellach, gweler: g: www.wai.org.uk/opp428 g: http://www.prsformusicfoundation.com
|