Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Image of the WAI logo  

   Hafan > Prosiectau > Dawns o Gymru yn British Dance Edition 2010
CYLLIDO
CYLCHLYTHYR
ADBORTH
CYSYLLTWCH Â NI
Printer friendly version of this page Email this page

Dawns o Gymru yn British Dance Edition 2010

2010

Tanja RamanBydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn mynychu British Dance Edition ar ddechrau Chwefror 2010, lle bydd dawnswyr sy’n seiliedig yng Nghymru, Eddie Ladd a Tanja Raman, yn perfformio.

Mae British Dance Edition yn hyrwyddo dawns cyfoes o Brydain a chynhelir yr wŷl pob yn ail flwyddyn. Yn 2010 cynhelir yr wŷl yn Birmingham rhwng 3-6 o Chwefror.

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cefnogi Eddie Ladd i fynychu’r wŷl yn 2010, lle bu hi’n perfformio ‘Ras Goffa Bobby Sands’. Mae’r darn yn portreadu bywyd Bobby Sands, bu farw ar streic newyn ym mloc H ym Melfast yn 1981. Perfformiwyd y darn ar beiriant rhedeg sy’n 12tr x 6tr o uchder. Mae’r darn yn ddwyieithog, gyda cyfweliadau yn Saesneg a gwaith newydd yng Nghymraeg gan y bardd Menna Elfyn.

Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru hefyd yn hyrwyddo Cyfeirlyfr Dawns newydd, sydd yn cynnwys amrywiaeth o ddawnswyr annibynnol a sefydliadau dawns o Gymru. Bwriad y Cyfeirlyfr yw i godi proffil rhyngwladol dawns o Gymru, a mi fydd yn ganllaw i gynhyrchwyr, hyrwyddwyr a churaduriaid rhyngwladol i ddatblygu eu gwybodaeth am y sector ddawns yng Nghymru.

Eddie Ladd

04/02/10 - Perfformiad gan Tanja Raman
05/02/10 - Perfformiad gan Eddie Ladd

I dderbyn derbyn rhagor o wybodaeth am British Dance Edition 2010, ewch i http://www.bde2010.co.uk 

Courtesy of Marc Rees, Photography of Warren OrchardImage courtesy of Tanja Raman, photography by John CollingswoodCourtesy of Jo ShaplandCourtesy of Cai Tomos

Courtesy of Jem TreaysImage courtesy of Sean Tuan John, photography by Roy Campbell-MooreCourtesy of Simon WhiteheadImage Courtesy of Anushiye Yarnell


I lawrlwytho copi o'r Cyfeirlyfr Dawns o Gymru 2010, dilynwch y linc isod: 



Cyfeirlyfr Dawns o Gymru 2010


Cyfeirlyfr Dawns o Gymru 2010 (1199Kb)
 Lawrlwytho

Aelodau