Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Image of the WAI logo  

   Hafan > Prosiectau > Archif Phrosiectau > Chwilio am y Ddraig Goch > Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth
CYLLIDO
CYLCHLYTHYR
ADBORTH
CYSYLLTWCH Â NI
Printer friendly version of this page Email this page

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Aberystwyth


Aberystwyth Arts Centre

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, yw’r ganolfan celfyddydau fwyaf yng Nghymru ac fe’i cydnabyddir fel ‘enghraifft genedlaethol ar gyfer y celfyddydau’.

Mae ganddi raglen artistig ag iddi ystod eang, yn cynhyrchu ac yn cyflwyno, ar draws holl ffurfiau’r celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, y cyfryngau newydd, a chelfyddydau cymunedol ac fe’i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu’r celfyddydau. Rydym yn croesawu dros 650,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gan gynnwys dros 100,000 o fynychiadau ar gyfer y celfyddydau perfformio a digwyddiadau sy’n cynnwys gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, 236,000 i arddangosfeydd a thros 100,000 ar gyfer ein rhaglen celfyddydau cymunedol ac addysg unigryw.

Yn 2000, gorffennodd y Ganolfan Celfyddydau ailddatblygiad mawr gwerth £4.3 miliwn ac, ar hyn o bryd rydym yn ymgymryd â datblygiad ychwanegol gwerth £1.75 miliwn a fydd yn ychwanegu cyfadeilad stiwdios diwydiannau creadigol ynghyd â stiwdios dawns a gofodau perfformio a fydd yn ganolfan raglen artistiaid preswyl newydd pwysig. Bydd hyn yn rhoi i Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth ystod o gyfleusterau nad oes ei tebyg ar hyd llawer o’r DU.

Adran o Brifysgol Aberystwyth yw’r Ganolfan Celfyddydau, ac mae’n sefyll yng nghalon campws y brifysgol, gyda golygfeydd trawiadol dros dref Aberystwyth ac ar hyd arfordir Bae Ceredigion.

g: www.aberartscentre.ac.uk



 
Lythyr
I dderbyn gwybodaeth cyson am weithgareddau CRC cofrestrwch eich ebost.




 English      Cymraeg
 
Aelodau