Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Image of the WAI logo  

   Hafan > Prosiectau > Archif Phrosiectau > Gweriniaeth Tsiec  > Prosiectau Y Weriniaeth Tsiec > Ffilm a Dylunio
CYLLIDO
CYLCHLYTHYR
ADBORTH
CYSYLLTWCH Â NI
Printer friendly version of this page Email this page

Ffilm a Dylunio


Cwrdd â Justin Kerrigan
Sgwrs gan yr artist a chyfle i weld Human Traffic

9 Hydref 2005
Cinema Svÿtozor, Vodiÿkova 41, Praha 1


Mewn cydweithrediad â Designblok/Datatransfer

Yn enedigol o Gaerdydd, astudiodd Justin Kerrigan Gelf a Dylunio yng Ngholeg Celf Caerdydd ac ar ôl arbrofi gyda fideo, tyfodd yr awch i wneud ffilmiau.

Enillodd ei ffilm naratif fer 20 years, 1 week and attitude Wobr Ffilm a Fideo yn Eisteddfod Genedlaethol 1993. Yn ddiweddarach fe’i derbyniwyd i ysgol ffilm Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd. Allan o’r chwe ffilm a wnaeth tra’n fyfriwr, dangoswyd pump ohonynt ar y teledu. Perswadiwyd ef gan un o’i diwtoriaid yn y coleg ei fod yn barod i wneud ei ffilm ‘fawr’, gan gytuno i’w chynhyrchu. Treuliodd Justin flwyddyn wedi hynny yn ysgrifennu Human Traffic. Aed â’r prosiect at bob cwmni cynhyrchu ffilmiau yn y wlad a gwrthododd pob un ohonynt y fenter. O’r diwedd sicrhawyd arian gan fuddsoddwr preifat a gwnaed y ffilmio yng Nghaerdydd ym 1998 am £400,000. Rhyddhawyd y ffilm ym 1999 i lwyddiant beirniadol a masnachol ac, erbyn hyn, fe’i hystyrir yn ffilm arloesol ac yn glasur cwlt. Ar hyn o bryd mae Justin yn gweithio ar ei ffilm newydd I Know You Know, gydag Ewan Bremner yn cymryd y prif ran (Trainspotting, Alien vs. Predator).

Ffilmiau Cymreig yn y British Films Seminar / Winter Film School
Rhagfyr 2005

Mwy o fanylion:

g: 
www.britishcouncil.cz          
g:
www.datatransfer.cz



Lythyr
I dderbyn gwybodaeth cyson am weithgareddau CRC cofrestrwch eich ebost.




 English      Cymraeg
 
Aelodau