
Partneriaeth rhwng y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru yw Cerdd Cymru : Music Wales sy'n dod â'r diwydiant cerddoriaeth a cherddorion yng Nghymru at ei gilydd i ddatblygu cyfleoedd rhyngwladol sydd o fudd i Gymru yn economaidd ac yn ddiwylliannol.
Mae gan Cerdd Cymru : Music Wales dri amcan:
1) Cyflymu’r sector cerddoriaeth parod-i-allforio yng Nghymru
2) Hyrwyddo cerddoriaeth Cymru’n rhyngwladol
3) Dod a llwyfan y byd i Gymru
I gyflawni hyn bydd Cerdd Cymru : Music Wales
• yn bartneriaeth strategol rhwng Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru
• yn datblygu a gweithredu prosiectau sy’n cyrraedd amcanion Cerdd Cymru : Music Wales
• yn datblygu partneriaethau gwaith pellach gyda sefydliadau eraill sy’n rhannu’r un weledigaeth a fedr gyfrannu profiad a gwybodaeth i brosiectau Cerdd Cymru : Music Wales
• yn datblygu proseictau sy’n cefnogi'r gwerthoedd craidd, sef creadigrwydd, safon, parodrwydd masnachol, cynaladwyedd a pharhad
Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn gweithio i gynnig:
Cyfleoedd i fentrau cerddoriaeth a cherddorion i ddatblygu sgiliau, ymarfer gorau a chysylltiadau er mwyn masnachu’n rhyngwladol.
Cyfleoedd i gwmniau a cherddorion parod i arddangos mewn arddangosfeydd rhyngwladol allweddol
Darparu gwell haenau o wybodaeth i ddiwydiant a cherddorion profesiynnol i feddu gwybodaeth am sector gerddoriaeth Cymru
Datblygiad parhaol proffesiynol i fentrau a cherddorion â golygon rhyngwladol i gynnal ymarfer gorau
Mae Cyngor Caerdydd, Cardiff and Co, Motorpoint Arena a Chanolfan Mileniwm Cymru yn Gyfarwyddwyr ar Cerdd Cymru : Music Wales, ac mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a'r British Council.
Mae Cerdd Cymru : Music Wales yn gweithio mewn partneriaeth gyda cherddorion â diwydiannau cerdd a'r cyfryngau yng Nghymru, y DU a thu hwnt, i ddatblygu cyfleoedd rhyngwladol sydd o fudd i Gymru yn economaidd ac yn ddiwylliannol, un enghraifft yw WOMEX 2013 Caerdydd.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.cerddcymru.com neu ebostiwch info@cerddcymru.com