Y Glerorfa

Gwyl Rhyngeltaidd Lorient

Diwylliant a thraddodiadau Cymru eu harddangos yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient

Cafodd diwylliant a thraddodiadau Cymru eu harddangos yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw rhwng y 1af a’r 10fed o Awst 2008.

Agorwyd Blwyddyn Cymru yn swyddogol ar yr 2il o Awst 2008 gyda dathliad gala ac arddangosfa i dynnu sylw at ddiwylliant cyfoethog a hynafol Cymru yn yr Wyl Rhyng-Geltaidd Rhyngwladol bwysig hon.

Roedd y noson fawr yn wledd ac yn gyfuniad o’r hynafol a’r cyfoes yn niwylliant Cymru dan arweiniad y bardd Cymreig/Llydewig, y rapiwr a’r cyflwynydd teledu, Aneirin Karadog; roedd ef yn cynnig ei gyflwyniad ei hun i’r diwylliant Brythonig sy’n ddolen gyswllt rhwng Cymru a Llydaw. Hefyd, ymunodd yr awdur a’r beirniad celf Siân Melangell Dafydd ag ef; cafodd Siân ei geni a’i magu yn Eryri ac ar hyn o bryd mae’n byw ym Mharis a Chymru.

Roedd hanner cyntaf y noson yn cloddio i wreiddiau’r traddodiadau Cymreig, gyda pherfformiadau o gerddoriaeth a dawns gan y Clerorfa, cerddorfa werin o hanner cant o offerynwyr, gyda thelynau, ffidlau, ffliwtiau a phibgyrn a bagbibau Cymreig yn cael eu cyfarwyddo gan ddau o brif gerddorion traddodiadol Cymru, Stephen Rees a Robin Huw Bowen. Roedd Dawnswyr Môn a Huw a Bethan Williams yn cyfuno curiadau tarawol dawns y glocsen â chyfoeth sain y Glerorfa. Roedd cerddorion eraill y rhan gyntaf yn cynnwys y triawd Sidan ac un o gorau coethaf Cymru, Côr Meibion Dowlais.

Roedd yr ail hanner yn cynnwys perfformwyr ifanc a newydd megis Bethan Nia (enillydd Cystadleuaeth Llwyfan Agored Cysylltiadau Celtaidd 2008) ac enillydd Gwobr Cymru Greadigol 2008, y canwr a’r awdur caneuon Richard James. Daeth y noson fythgofiadwy i ben i seiniau 9Bach, sydd wedi distyllu gwerth mwy na dau gan mlynedd o ganeuon i greu eu sain melysaidd.

Dywedodd Eluned Haf, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

"Mae diwylliant Cymru, yn fwy nag erioed o’r blaen, yn datblygu enw da rhyngwladol ac mae iddo gyfoeth o artistiaid sydd eisoes wedi cymryd eu lle ar y llwyfan byd-eang. Dyma’r amser gorau i gelfyddyd ac artistiaid Cymreig. Mae ein diwylliant a’n traddodiadau yn creu cynnwrf drwy’r byd, trwy gyfrwng ansawdd y gwaith sy’n cael ei gynhyrchu gan ein hartistiaid a’n cerddorion cyfoes a’r enw da rhyngwladol sydd iddynt. Mae ein traddodiad diwylliannol ni wedi ei drwytho mewn hanes, ond mae’n ddiwylliant byw a bywiog ac mae ein pobl greadigol yn llwyddo i gyfleu hyn mewn dulliau cyfoes."

Cafodd gwaith dau artist Cymreig ei arddangos yn yr arddangosfa gelf Ewro-geltaidd. Yn Hon, ei gydweithrediad gyda rhai o brif awduron a beirdd Cymru, roedd Iwan Bala yn archwilio hunaniaeth ddiwylliannol a’r modd y mae’n bodoli o fewn y byd ehangach. Roedd ei waith yn defnyddio nodweddion sy’n ymddangos yn aml, megis Ianws ddauwynebog, duw Celtaidd-Rufeinig sy’n cyfuno’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn ei drem. Roedd y beirniad celf Siân Melangell Dafydd, un o awduron y cydweithrediad, yn rhoi cyflwyniad i Hon yn agoriad yr arddangosfa ar ddydd Sadwrn, yr 2il o Awst 2008. ‘Paentio Pur’ yn hytrach na gwneud lluniau, oedd gwaith John Uzzell Edwards, a’r hyn oedd yn ei symbylu yw archwilio ffurfiau Cymreig cynnar. Yr ysbrydoliaeth i’w arddangosfa oedd ansawdd esthetig cwiltiau a blancedi Cymreig ac mae’r rhain wedi rhoi pwrpas ac egni i’r corff newydd hwn o waith.

Cynhelir dathliad gala Blwyddyn Cymru am 21.30 o’r gloch, ddydd Sadwrn 2il Awst 2008 yn y Grand Theatre yn Lorient.

Roedd nifer o artistiaid o Gymru yn cymeryd rhan mewn digwyddiadau a chyngherddau mewn nifer o leoliadau eraill yn ystod Gwlyl Lorient, gan gynnwys ym Mhafiliwn Blwyddyn Cymru.

Cefnogi'r yr arddangosfa gelf ar Gala gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Am wybodaeth pellach, ewch i:
g: www.festival-interceltique.com
g: www.walesworldnation.com

Gwelwch raglen Noson Cymru yng Ngwyl Rhyng-Geltaidd Lorient isod:

Pob prosiect yn y rhanbarth hwn

Cymru - Tsieina 2017

Thomas Martin - Stratum 50 - Open Books

India Cymru

Hay Festival Kerala

Patagonia 150

Patagonia - Marc Rees