Y Cefndir
1. Beth yw Efex?
Gŵyl arddangos a ffair fasnach i werin ryngwladol dros dridiau yw Ffair Werin Lloegr (Efex) gyda thalent o Loegr a chyda phartner rhyngwladol bob blwyddyn. Atynna archebwyr, gwyliau, canolfannau celfyddydol, clybiau gwerin, asiantwyr a hyrwyddwyr o ledled Prydain, Ewrop, Canada a lleoedd eraill i Fanceinion ym mis Hydref yn ystod yr wythnos cyn Womex.
Yn ôl ei gwefan, mae'n darparu llwybr effeithiol i farchnad gwreiddiau, acwstig a gwerin Lloegr nad oedd ar gael o'r blaen. Caiff cynadleddwyr fynd i bob perfformiad yng Ngŵyl Werin Manceinion a chyfleoedd arddangos arbennig i'r diwydiant yn unig a rydd gyfleoedd i greu cysylltiadau gweithio gyda phobl ddylanwadol yn y diwydiant yn Lloegr.
https://www.englishfolkexpo.com/
Bob blwyddyn cynnwys y digwyddiad bartner rhyngwladol ac yn 2018 Cymru fydd y partner. Bydd yn gyfle unigryw i glywed cerddoriaeth werin o Gymru ar lwyfannau Lloegr. (Dim awyrennau na theithebau!) Gwahoddir ceisiadau oddi wrth berfformwyr i gynrychioli adfywiad gwerin Cymru i gynulleidfaoedd newydd a hygyrch. Ffair fasnach ydyw felly rhaid ichi hefyd brofi mai hon yw'r adeg iawn yn eich gyrfa gerddorol ichi fanteisio ar y cyfle busnes i'r eithaf.
2. Beth yw'r broses ddewis?
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Tachwedd. Ystyrir ceisiadau gan banel o ddeg gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant gan gynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Celfyddydau Cymru, trac, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Theatr Mwldan, y BBC, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus. Bydd y panel yn sgorio pob cais a thynnu rhestr fer o ddeg ymgeisydd. Cyflwynir y rhestr fer i raglennwr Gŵyl Werin Manceinion a ddewis bedwar i ymddangos.
3. Beth a gaiff yr artistiaid llwyddiannus?
Caiff y pedwar gig â thâl yn yr ŵyl (sef wyneb cyhoeddus Efex) a pherfformiant hefyd mewn Derbynwest yng Nghymru i gynadleddwyr Efex.
Gall y chwech nad ydynt ar y rhestr fer anfon un cynrychiolydd i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, i gwrdd ag archebwyr a'u hyrwyddo eu hunain.
Dros y penwythnos â artistiaid i ddigwyddiad Siop Siarad i gwrdd yn gyflym â llu o archebwyr a bydd cyfleoedd rhwydweithio ar gael drwy'r penwythnos gyda gweithwyr proffesiynol ac artistiaid eraill.
Eich cais
Llenwch y pedwar cwestiwn isod:
1. Gwaith artistig
Disgrifiwch eich gwaith. I ba raddau yr ystyriwch fod dylanwad traddodiad gwerin Cymru arno? (250 gair ar y mwyaf)
2. Parodrwydd ar gyfer allforio
Rhowch fanylion am bob un (neu’r rhai mwyaf arwyddocaol) o’ch perfformiadau Prydain a/neu dramor yn y ddwy flynedd diwethaf e.e. lleoliad/gŵyl, dyddiad, pennawd neu gefnogi (os cefnogi, enwch y prif artist).
Rhowch ddolenni i’r adolygiadau os yw’n bosibl
3. Hyrwyddo
Rhowch fanylion am eich gweithgareddau marchnata/cysylltiadau cyhoeddus a’ch cefnogaeth, gan gynnwys – a ydych yn hunanfarchnata? wedi’ch cefnogi? gan bwy? faint sydd ar eich rhestr bostio?
Rhowch wybodaeth am sut y cyfathrebwch â’ch dilynwyr a’ch cysylltiadau diwydiannol drwy’r we, gan gynnwys manylion am lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwch (trydar, gweplyfr ayb) gyda chysylltiadau perthnasol a, lle bo’n berthnasol, nodwch nifer eich ‘cyfeillion’ a’ch ‘dilynwyr’.
A oes gennych becyn trydanol i’r wasg neu ffilmiau byw o’ch gwaith? Rhowch fanylion am y ffilmiau, gan nodi sut a ble y gellir eu gweld.
Rhowch wybodaeth am eich CD diweddaraf e.e. teitl, dyddiad rhyddhau, argaeledd a dolenni i’r adolygiadau.
4. Perthnasedd i’ch gyrfa
Amlinellwch pam yr hoffech berfformio mewn cyfle arddangos rhyngwladol. Pam y mae’r profiad hwn yn berthnasol i’ch uchelgais gyrfaol? Beth y disgwyliwch ei gael o’r profiad? Sut y gwerthuswch y llwyddiant? (250 gair ar y mwyaf)
Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr
- Rhaid i brif gyfeiriad yr ymgeisydd fod yng Nghymru.
- Dylai eu gwaith arddangos rhyw berthynas gyda thraddodiad gwerin Cymru.
- Bydd ganddynt hanes o lwyddo, gan gynnwys recordiadau a pherfformiadau, e.e. adolygiadau o CDau a pherfformiadau.
- Rhaid iddynt allu profi'r gallu i fwyafu'r cyfleoedd hyrwyddo a gynnig Efex drwy e.e. eu presenoldeb cryf ar y we a'r cyfryngau cymdeithasol, rhestri postio credadwy, cynnyrch hyrwyddo i'r digwyddiad, argaeledd Pecyn Gwybodaeth Trydanol i'r Wasg neu fideo byw.
- Rhaid iddynt esbonio eu rhesymeg am ymgeisio a'r perthnasedd i ddatblygiad i'w gyrfa.
- Rhaid iddynt fod yn fodlon cael eu cyfweld gan y wasg a chael eu ffoto wedi'i dynnu yn ôl gofynion prosiect Cymru yn Efex.
- Rhaid iddynt ddarparu hygyrchedd i'w caneuon cyfredol ar-lein e.e. Soundcloud, Spotify, gwefannau.
- Mae tystiolaeth o ddiddordeb cyfredol yn y diwydiant cerdd rhyngwladol neu gefnogaeth ohono'n ddymunol.
- Rhaid iddynt fod ar gael i berfformio ym Manceinion rhwng 18-20 Hydref 2018.
E-bostiwch eich cais at info@wai.org.uk cyfeirnod EFEx 2018 erbyn 5pm ar 30 Tachwedd. Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth i chi bod eich cais wedi'i dderbyn.