Hiraeth5_2014_StephDavies

Steph Davies - Hiraeth

Cafodd Steph Davies ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i deithio i Batagonia yn ystod 2014. Dyma rai o'i meddyliau wrth iddi fyfyrio am ei phrofiadau.

Ni ddysgais unrhyw beth am y Wladfa yn blentyn. Dywedodd fy nain wrthyf unwaith fod rhai Cymry'n byw bywyd Cymreig ym Mhatagonia yn yr Ariannin, ond dyna'r cwbl roeddwn i'n ei wybod. Rhoddodd lyfr i mi na ddarllenais erioed. Ond arhosodd y syniad yng nghefn fy meddwl.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynais ymchwilio i'r stori fy hun, a'r mwyaf roeddwn i'n ei ddarganfod, y mwyaf roeddwn i'n cael fy nghyfareddu. Yn y diwedd, penderfynais fynd i Batagonia. Â hithau’n nesáu at 150 mlynedd ers sefydlwyd y Wladfa, roedd yn ymddangos yn amser perffaith i ddechrau ar y daith hon. Roeddwn yn teimlo bod yna stori i'w hadrodd. Roedd pobl yng Nghymru yn gwybod am y Cymry ym Mhatagonia, ond nid oedd pawb yn gwybod pam eu bod yno, pam bod eu cyndeidiau wedi penderfynu gadael Cymru, a ph'un a oedd pobl yn siarad yr iaith o hyd. Roedd cymaint o straeon diddorol i'w dweud nad oedd modd eu cael mewn gwerslyfrau. Penderfynais greu gwefan lle gallai'r defnyddiwr dreulio pum munud yn pori, a byddai'n sicr o gael gwybodaeth newydd.

Pan siaradais am yr hyn roeddwn i'n bwriadu ei wneud, ymatebodd llawer o bobl yng Nghymru yn gadarnhaol i'r syniad. Derbyniais nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Prifysgol Caergrawnt, busnesau Cymreig lleol, a chyllid torfol gan Kickstarter, ac arweiniodd hynny at gefnogaeth gan BBC Cymru, a greodd fwy o sylw.

Es i i Batagonia a threuliais ddeg wythnos yno. Cefais fy synnu a'm mhlesio gan yr hyn a welais. Er ei fod 8,000 o filltiroedd o fy nghartref ac mewn hinsawdd wahanol, nid oeddwn erioed wedi bod i unrhyw le oedd yn teimlo mor debyg i fy nghartref. Roedd Trefelin yn debyg i Aberteifi. Roedd y lle a'r bobl mor gyfarwydd. Cyrhaeddais ar y nos Wener, ac ar fy nydd Sadwrn cyntaf, es i i briodas gyda fy nghroesawr. Roedd y Patagoniaid Cymreig yn groesawgar, a gwnaethant i mi deimlo'n gyfforddus a chartrefol.

Roeddent hefyd yn ddigon caredig i'm croesawu i'w cartrefi er mwyn i mi eu cyfweld a'u ffilmio. Daeth un peth i'r amlwg yn gyflym: eu bod i gyd yn ymwybodol o'u hanes ac eisiau ei rannu gyda mi. Roeddent yn hynod falch o'u diwylliant a'u treftadaeth, ac roedd llawer ohonynt yn rhoi eu hamser hamdden i gadw'r iaith Gymraeg a'r diwylliant yn fyw ym Mhatagonia.

Cefais fy nghyflwyno i ddisgynyddion yr ymfudwyr cyntaf, i'r genhedlaeth hŷn a fu'n galon i'r gymuned am gyfnod hir, i ffermwyr lleol, ac i athrawon ifanc oedd wedi dod o Gymru i Batagonia i ddysgu Cymraeg. Gwnes gyfweld a ffilmio deugain o wahanol bobl, a rannodd eu hanesion rhyfeddol â mi, yn y gymuned yn yr Andes ac yn Nyffryn Camwy. Roeddent o wahanol gefndiroedd, ond roedd gan bob un ohonynt gysylltiad Cymreig, ac roedd ganddynt i gyd stori wahanol i'w hadrodd. Dychwelais i Gymru gydag oriau lawer o ffilm a straeon i mi eu rhannu gyda chynulleidfa ehangach: straeon o gymuned, straeon wedi'u trosglwyddo ar lafar drwy'r cenedlaethau.

Pan ddychwelais i Gymru, dechreuais weithio gyda thîm bach er mwyn creu'r wefan Project-Hiraeth.com, gan greu darluniau, golygu ffilm, cyfieithu testun, a chynllunio ac adeiladu'r safle. Ym mis Mawrth 2015, cafodd y wefan ei lansio, ac yn fuan wedi hynny, er syndod i mi, cysylltodd cyhoeddwr â mi yn gofyn am gael troi'r prosiect yn llyfr, gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Datblygodd y llyfr hwn o'r wefan. Mae Hiraeth yn ddathliad o'r Wladfa a sefydlwyd ym Mhatagonia 150 mlynedd yn ôl. Mae'r rhai a gafodd eu cyfweld yn dwyn atgof o ddewrder eu cyndeidiau yn wyneb caledi ofnadwy, ac yn ymhyfrydu yn eu hymroddiad i'r iaith Gymraeg a'r diwylliant filoedd o filltiroedd o'u cartref. Mae'n stori am y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, ac am ddyfalbarhad, balchder a hiraeth. Mae rhai o'r fideos yn wirioneddol brydferth, wrth i'r cyfweleion drafod yr hyn mae hiraeth yn ei olygu iddynt ac ystyried pryd roeddent wedi teimlo'r emosiwn hwnnw.

Trwy dystiolaeth a darluniau, rydym wedi ceisio cyfleu ysbryd a stori gyfareddol y Gymru dros 7,000 o filltiroedd i ffwrdd. Ni allaf feddwl am ffordd well o ddysgu am sut mae'r diwylliant Cymreig ym Mhatagonia heddiw na thrwy lygaid y bobl sy'n byw yno. Mewn byd lle mae cymaint o ddiwylliannau ac ieithoedd lleiafrifol yn diflannu, mae hon yn stori mor gadarnhaol - ac mae'r wefan a'r llyfr yn ddathliad o hynny.

Cymru - Tsieina 2017

Thomas Martin - Stratum 50 - Open Books

India Cymru

Hay Festival Kerala

Patagonia 150

Patagonia - Marc Rees